Mae galw am raddedigion Prifysgol Bangor yn y farchnad waith
Mae ystadegau sydd newydd eu cyhoeddi yn dangos bod galw am raddedigion Prifysgol Bangor yn y farchnad waith. Mae canlyniadau yn dangos bod 93.8% o raddedigion y llynedd naill ai mewn gwaith neu yn astudio, chwe mis wedi iddynt raddio.
Daw’r canlyniadau gwych o’r ystadegau cyflogadwyedd diweddaraf ar gyfer y DU (data’r Higher Education Statistics Agency) a dangosant fod canlyniadau ar gyfer graddedigion Prifysgol Bangor yn well na’r cyfartaledd ar gyfer y DU ac yn unol â’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.
Mae’r canlyniadau hyn, sy’n dangos gwelliant, hefyd yn gosod graddedigion y Brifysgol yn uwch na’r meincnod sydd wedi ei addasu ar gyfer cyfartaledd sy’n ystyried ffactorau fel cymysged y pynciau, cymwysterau mynediad i Brifysgol a phroffil oedran myfyrwyr Prifysgol Bangor.
“Mae hyn yn newyddion gwych ar gyfer ein myfyrwyr sy’n graddio’r wythnos hon,” meddai’r Athro Oliver Turnbull, Dirprwy Is-ganghellor. “Bydd nifer ohonynt wedi cael swyddi’n barod neu’n weithgar yn chwilio am swydd, ac eraill wedi eu derbyn ar gyrsiau gradd uwch neu ôl radd.”
“Mae’r ystadegyn hwn, sy’n dangos bod rhagolygon wedi gwella eto i raddedigion Bangor, yn dangos bod galw cynyddol am raddedigion Prifysgol Bangor yn y farchnad swyddi, ac mae hwn yn newyddion da iawn wir.”
Mae Prifysgol Bangor yn rhoi cryn bwyslais ar ddarparu nid yn unig addysg i’w myfyrwyr ond hefyd cyfleoedd i ehangu eu sgiliau personol, profiadau a CVs er mwyn sicrhau gyrfaoedd at y dyfodol.
Mae graddedigion eleni ymysg y rhai cyntaf i gymryd mantais lawn o ddatblygiad newydd yn y Brifysgol: Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB). Mae’r GCB yn cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i fyfyrwyr ddatblygu’r sgiliau a’r profiadau hynny sy’n ddelfrydol i gyflogwyr, wedi ei seilio ar ymchwil ddiweddar. Mae’r rhai sy’n graddio efo GCB yn derbyn tystysgrif, trawsgrifiad a gwiriad swyddogol o’u gweithgareddau allgyrsiol gan Brifysgol Bangor fel bod ganddynt dystiolaeth gadarn o’u llwyddiannau.
Pe bai angen tystiolaeth bellach, daw newyddion hefyd fod pob un o’r graddedigion radiograffeg Prifysgol Bangor eleni wedi cael swydd gyda gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru neu Lloegr.
Mae pob un o’r 17 wedi eu penodi i swyddi hyd at dri mis cyn graddio.
Roedd yr Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd wrth ei bodd gyda’r newyddion. Dyma oedd ganddi i’w ddweud: “Mae hyn yn gyrhaeddiad gwych gan ein myfyrwyr, sy’n dangos ansawdd y rhaglenni gofal iechyd rydym yn eu darparu yn yr Ysgol, a rhagoriaeth ein darlithwyr. Mae’n dda gwybod ein bod yn cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at ddarpariaeth gwasanaethau iechyd o ansawdd yn y rhanbarth ac yn genedlaethol.”
Dywedodd Elizabeth Carver, darlithydd arweiniol addysg glinigol, bod y myfyrwyr wedi bod yn flwyddyn dda, a’i fod yn ymddangos: “bod cyflogwyr y dyfodol yn sylweddoli y byddant yn gwneud pobl broffesiynol dda ym maes iechyd hefyd. Mae un myfyriwr hyd yn oed wedi llwyddo i gael ei benodi i swydd ddeniadol a chael ei gyfweld ynghyd â sawl radiograffydd wedi eu cymhwyso a rhai profiadol."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2015