Mae gan Awstriaid ddiddordeb mewn archaeoleg
Wrth i Awstria baratoi i newid y ffordd yr ymdrinnir ag archaeoleg, drwy gadarnhau'r Confensiwn Ewropeaidd ar Warchod Treftadaeth Archeolegol (diwygiedig), mae'r Athro Raimund Karl, sy'n arbenigwr blaenllaw ar gael y cyhoedd i ymddiddori mewn archaeoleg a chymryd rhan ynddo, wedi bod yn gweithio â llywodraeth Awstria i ymchwilio i agweddau Awstriaid tuag at archaeoleg.
Caiff y gwaith ei gyflwyno i'r wasg yn Awstria ar 1 Medi 2014, cyn y newidiadau yn y ffordd yr ymdrinnir ag archaeoleg yn y wlad.
Fel hyn yr eglurodd yr Athro Karl:
"Mae ymchwil i ddiddordebau archeolegol y cyhoedd yn Awstria yn amserol a hynod berthnasol i lunio polisi cyhoeddus a newidiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth yn ymwneud â threftadaeth archeolegol. Roedd galluogi ac ysgogi'r cyhoedd i gymryd mwy o ran mewn archaeoleg yn nod y Confensiwn ar Werth Treftadaeth Ddiwylliannol i Gymdeithas (Faro 2005), a gwaith diweddar yn Awstria gan Asiantaeth Dreftadaeth Genedlaethol Awstria, Bundesdenkmalamt (http://www.bda.at) ac mae grŵp ymgynghorol o arbenigwyr yn anelu at greu cyfleoedd o'r fath ar raddfa lawer ehangach nag o'r blaen."
Yn yr astudiaeth a ysgrifennwyd gan yr Athro Karl o Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg Prifysgol Bangor, eglurwyd beth yw diddordebau archeolegol y cyhoedd yn Awstria. Dangosodd yr astudiaeth bod gan y cyhoedd yn Awstria ddiddordeb brwd mewn archaeoleg a'u bod yn ei ystyried yn werthfawr iawn. Gwelir yno hefyd gryn ddiddordeb mewn cymryd rhan ymarferol mewn gweithgareddau archeolegol.
Meddai'r Athro Karl:
"Mae ein hastudiaeth yn dangos yr ystyrir archaeoleg yn rhywbeth gwerthfawr iawn i gymdeithas yn Awstria, ei fod yn waith hamdden cyffrous yn ogystal ag yn broffesiwn sy'n cyfrannu'n helaeth at ein dealltwriaeth o orffennol a diwylliant Awstria.
"Mae archaeoleg yn Awstria i'w longyfarch ar ei lwyddiant nodedig yn goleuo'r cyhoedd ynghylch pwysigrwydd treftadaeth archeolegol y wlad. Mae hyn yn sylfaen ragorol i raglenni yn y dyfodol i gael y cyhoedd i ymwneud hyd yn oed fwy ag archaeoleg ac mae rhai o'r rhain yn cael eu datblygu ar hyn o bryd dan nawdd y Bundesdenkmalamt."
Ychwanegodd yr Athro Karl:
"Rwy'n neilltuol falch bod ein hymchwil ym Mangor, a wnaed ar y cyd gyda myfyrwyr Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Fienna, wedi darparu sylfaen i alluogi'r cyhoedd yn Awstria i elwa mwy hyd yn oed oddi wrth archaeoleg yn y dyfodol."
Meddai Bernhard Hebert, pennaeth yr Adran Archaeoleg yn Asiantaeth Treftadaeth Genedlaethol Awstria:
"Am y tro cyntaf mae’n bosibl cael gwybod beth yn union ydi agweddau Awstriaid tuag at henebion archeolegol ac ymchwil archeolegol. Bydd yr astudiaeth yma a wnaed gan Raimund Karl o Brifysgol Bangor, gyda chymorth myfyrwyr o Brifysgol Fienna, yn gymorth mawr i ni ganolbwyntio ein hymdrechion ar eglurder a chael y cyhoedd i gymryd rhan."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2014