Mae myfyriwr ôl-radd ym Mhrifysgol Bangor wedi cael ei enwebu am wobr yng Ngŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin.
Mae Lester Hughes, o Bwllheli, sy'n fyfyriwr hŷn ac yn dad i ddau o blant, newydd ddechrau astudio am ddoethuriaeth mewn ffilm. Mae ei ffilm fer 12 munud, "Waves, Taid & Time", wedi cael ei henwebu am wobr yn y categori arbrofol. Cyhoeddir enwau’r enillwyr yn ystod yr ŵyl yn Llanelli rhwng 8 a 9 Ebrill.Dywedodd Lester: "Mae Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin yn ŵyl ffilmiau weddol newydd ac mae'n ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn annog a chefnogi ffilmiau annibynnol yng Nghymru, Prydain a thu hwnt.
"Pan gefais y neges e-bost yn dweud fy mod wedi cael fy enwebu, doeddwn i ddim yn siŵr sut oeddwn yn teimlo i ddweud y gwir - roeddwn yn llawn cyffro ac yn nerfus yr un pryd ac mae meddwl am bobl hollol ddiarth yn eistedd mewn sinema yn gwylio ffilm a grëwyd gen i yn deimlad hollol swrrealaidd.
"Darn arbrofol ydy'r ffilm ac mae'n canolbwyntio ar ddyn (taid) wrth iddo ddweud straeon am fywyd ei dad a'i daid. Yn ei hanfod, mae'r ffilm yn trafod y bywydau bach, cul sydd gennym i gyd. Mae'r ffilm yn defnyddio Ynys Enlli fel trosiad, gan fod llawer o bobl yn gallu gweld yr ynys o'u cartrefi er nad ydyn nhw erioed wedi bod ar yr ynys.
"Cafodd y ffilm ei gwneud fel rhan o'm gradd Meistr ac mae'n ffilm bersonol iawn. Fy nhaid a ysbrydolodd ffilm - bu'n byw ym Mhen Llŷn ar hyd ei oes yn edrych draw ar Ynys Enlli ond dim ond unwaith erioed y bu yno, pan oedd yn ei chwedegau.
"Pan fu farw, cefais hen gist fôr a oedd yn eiddo i'w dad a dreuliodd ei oes ar y môr. Roedd gennyf ddiddordeb yn y cyfosodiad rhwng tad (fy hen daid) a dreuliodd ei oes ar y môr a mab (fy nhaid) a dreuliodd ei oes ar y tir. Penderfynais dreulio wythnos ar Ynys Enlli a saethais dros 13 awr o ffilm yno.
"Rwy'n ddiolchgar i nifer o bobl yn yr adran am fy helpu - bu Joanna Wright a Mikey Murray yn fentoriaid i mi trwy gydol y broses o wneud y ffilm ac mae hynny wedi rhoi hwb mawr i'm hyder fel cynhyrchydd. Mae fy nyled i Huw Powell hefyd yn fawr iawn am ei gefnogaeth a'i gymorth cyson. Rhwng y tri ohonyn nhw, mae ganddyn nhw brofiad o weithio ar raglenni dogfen, operâu sebon a ffilmiau byr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA ac mae hynny o gymorth mawr i'r myfyrwyr."
Ynglŷn â'r Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, dywedodd Lester: "Mae'n adran weddol fach, gydag amrywiaeth fawr o fyfyrwyr sy'n astudio pob math o bethau, yn theori ffilm, perfformio, ysgrifennu i'r sgrin, gwneud ffilmiau a newyddiaduraeth. Oherwydd bod yr adran yn fach, mae'r myfyrwyr yn helpu ei gilydd gyda chynyrchiadau yn y brifysgol a'u cynyrchiadau bach, personol eu hunain ac mae hynny'n golygu bod y myfyrwyr yn gallu defnyddio'r sgiliau maen nhw wedi eu dysgu ar nifer o ffilmiau gwahanol trwy gydol eu hamser yn yr ysgol.
Ynglŷn ag astudio ym Mangor, dywedodd: "Gadewais gartref pan oeddwn yn 18 ac es yn syth i weithio ac rwyf wedi cael llawer o swyddi gwahanol, yn cynnwys llenwi silffoedd mewn siop a rhedeg busnesau fy hun. Fi yw'r hynaf o saith plentyn a doedd mynd i'r brifysgol ddim yn ddewis posib i mi pan adewais yr ysgol. Ugain mlynedd yn ddiweddarach ar ôl priodi, penderfynais wneud cais am le i astudio am radd astudiaethau ffilm. Yn ystod tair blynedd y cwrs roeddwn yn jyglo gofynion y gwaith cwrs, sifftiau nos a babi newydd, a doedd hynny ddim yn hawdd! Ar ôl cael gradd 2.1, cefais gynnig lle ar gwrs MA ffilm ac roeddwn yn ffodus iawn i gael swydd ran-amser yn yr adran hefyd.
Ynglŷn â'r dyfodol, dywedodd Lester: "Mae'n gyfnod cyffrous iawn yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau. Pan ddechreuais astudio am fy ngradd gyntaf, doedd neb yn gwneud ffilmiau yma ond mae'r adran wedi mynd o nerth i nerth ac mae'r myfyrwyr yn gwneud ffilmiau o ansawdd da yn rheolaidd erbyn hyn.” Mae ôl-raddedigion yr adran wedi bod yn hynod o lwyddiannus eleni ac mae rhai yn eu mysg wedi ennill gwobr yng Ngŵyl Ffres a gwobr gan y "Royal Television Society". Rwy'n teimlo'n ffodus dros ben i weithio ac astudio yn yr adran ac rwy'n bwriadu gweithio'n ddygn ar fy noethuriaeth, parhau i ffilmio a mwynhau'r amgylchedd creadigol unigryw hwn am gyhyd â phosib."
Dyddiad cyhoeddi: 21 Mawrth 2013