Mae planhigion blodeuog Antarctica yn cynhesu i newid yn yr hinsawdd
Mae rhifyn cyntaf cyfnodolyn newydd yn y gyfres bwysig Nature, sef, Nature Climate Change (rhifyn 1; Ebrill 2011 ) yn tanlinellu sut mae un rhywogaeth planhigion yn Antarctica fel pe bai’n manteisio ar newid yn yr hinsawdd.
Mae Dr Paul Hill, gwyddonydd ym Mhrifysgol Bangor a phrif awdur y papur, yn egluro: “Rydym yn meddwl am yr Antarctic fel gwlad o eira a rhew. Ond ystod yr haf ar benrhyn Antarctica, a’r ynysoedd sydd o amgylch canol rhewedig y cyfandir, mae’r eira’n toddi, ac mae llawer o ardaloedd yn glasu, gyda mwsoglau a dwy rywogaeth o blanhigyn blodeuog brodorol. Yn ddiweddar, wrth i'r tymheredd godi trwy’r byd, ac wrth i hafau Antarctica fynd yn hirach ac yn gynhesach, mae un o'r planhigion blodeuog hyn, Brigwellt Antarctica (Deschampsia antarctica), wedi ymledu’n gynyddol.”
Mae’n bosib bod tîm o wyddonwyr o’r Deyrnas Unedig ac Awstralia dan arweiniad yr Athro Davey Jones o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol Bangor wedi darganfod cyfrinach llwyddiant y planhigyn hwn. Gwnaeth y tîm waith ymchwil wedi ei ariannu gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol ar y cyd â'r Arolwg Prydeinig o Antarctica yng Ngorsaf Ymchwil Signy yn Ynysoedd De Orkney. Ynys anghysbell yw Signy lle mae cofnodion dros y 50 mlynedd ddiwethaf wedi dangos heb amheuaeth bod yr hinsawdd yn cynhesu.
Eglura’r Athro Davey Jones: “Mae angen nitrogen ar blanhigion i dyfu. Ar arfordir Antarctica, mae’r rhan fwyaf o’r nitrogen wedi ei gloi mewn deunydd organig yn y pridd, sydd wedi bod yn araf i ddadfeilio yn yr amodau oer. Mae’r nitrogen bellach ar gael yn ehangach wrth i’r tymheredd godi”.
Darganfu tîm yr Athro Jones bod Brigwellt Antarctica yn gallu defnyddio ei wreiddiau i fynd at y nitrogen hwn yn llawer mwy effeithlon nag y dangoswyd o'r blaen mewn planhigion. Oherwydd hyn, wrth i’r planhigion ymdrechu i gael gafael ar y maetholion sydd eu hangen i fanteisio ar olau haul haf cwta Antarctica, mae gan y brigwellt un fantais allweddol dros y mwsoglau wrth iddo gystadlu am adnoddau gyda nhw. Ond mae'r Athro Jones yn cyfaddef na fydd y gorsafoedd yn Antarctica angen prynu peiriant torri gwair am sbel eto!
Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod rhai planhigion yn defnyddio nitrogen ar ffurf na chydnabuwyd o’r blaen ei bod yn bwysig. Felly gallai hyn gael effaith sylweddol ar reolaeth gynaliadwy systemau amaethyddol a naturiol mewn sawl rhan arall o’r byd. Dylai darganfod elfen newydd yng nghylch daearol nitrogen ein helpu i ddefnyddio gwrtaith yn fwy effeithlon ac i ddeall yn well oblygiadau llygredd nitrogen anthropogenig ac ymatebion ecosystemau i newid yn yr hinsawdd.
Dyddiad cyhoeddi: 29 Mawrth 2011