Mae Prifysgol Bangor yn gwella ei Effaith Werdd
Fel rhan o'i hymrwymiad parhaus i gynaliadwyedd, mae Prifysgol Bangor wedi cael ei dewis i gymryd rhan mewn rhaglen gyffrous a arweinir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS). Mae Prifysgolion a Cholegau Effaith Werdd yn gynllun achrediad amgylcheddol sy'n helpu pobl i wella eu hamgylcheddau gwaith a chael effaith gadarnhaol ar fywydau eu myfyrwyr wrth ennill cydnabyddiaeth am eu hymdrechion. Dechreuodd y cynllun yn 2006 , ac mae wedi tyfu'n gyflym i weithio gyda 46 o Brifysgolion a Cholegau, 105 o Undebau Myfyrwyr, a thros 44,000 o aelodau o staff ar draws y wlad - i gyd yn dod at ei gilydd i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
Eleni, bydd timau o staff ym Mhrifysgol Bangor yn cael eu hannog i ffurfio timau a chwblhau llyfr gwaith ar-lein sy'n gweithredu fel fframwaith ar gyfer gwelliant parhaus, gan awgrymu pethau y gallent fod yn ei wneud i helpu i wella eu perfformiad amgylcheddol. Mae'r timau yn anelu at ennill achrediad efydd, arian neu aur trwy gyflawni amrywiaeth o feini prawf amgylcheddol sy'n cael effaith gadarnhaol sylweddol ar eu hamgylchedd gwaith. Mae'r llyfr gwaith wedi ei gynllunio i fod yn hygyrch i unrhyw un - waeth faint o ddiddordeb rydych wedi gael mewn materion amgylcheddol yn y gorffennol a waeth beth yw eich swyddogaeth yn y brifysgol. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal i ddathlu llwyddiannau'r flwyddyn.
Mae Effaith Werdd yn ffordd effeithiol o wella ymarfer da amgylcheddol, annog ymgysylltu â staff, a chryfhau cysylltiadau rhwng myfyrwyr a staff yn y sefydliadau. Bydd y tîm canolog yn UCM yn ogystal ag yn y sefydliad yn helpu cefnogi timau drwy'r broses, yn ogystal â darparu cyfoeth o adnoddau ar-lein i helpu i wneud newidiadau anhygoel mewn amgylcheddau gwaith ar draws y sefydliadau. Mae Effaith Werdd yn gynllun cadarnhaol sy'n dathlu cyflawniadau, yn cydnabod ymdrechion unigolion, ac yn annog rhannu arfer da drwy gyfathrebu cryf - gan wneud i effeithiau’r cynllun gyrraedd mor eang ag y bo modd.
Bydd Prifysgol Bangor yn lansio ein rhaglen Effaith Werdd ar ddydd Llun 11eg o Dachwedd yn Ystafell Bwyllgor Undeb y Myfyrwyr (Adeilad Oswald ) 12 – 2pm. Os ydych chi'n meddwl y bydd gennych ddiddordeb mewn bod yn aelod o dîm Effaith Werdd, dewch draw i’r lansiad neu mae croeso i chi gysylltu â Mair Rowlands ar 01248 382852 neu m.rowlands@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 6 Tachwedd 2013