Mae’r Brifysgol yn lansio Project £3.2 miliwn i Hybu Twf Economaidd
Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Bangor wedi cynnal lansiad swyddogol project £3.2 miliwn i hybu twf economaidd yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae'r Project Ennill wrth Dendro wedi ei gyllido'n rhannol gan Raglen Drawsffiniol Iwerddon/Cymru'r Undeb Ewropeaidd a’i nod yw trawsnewid gallu cyflenwyr bach i ennill contractau a sicrhau bod sefydliadau lleol yn ennill mwy o siâr o fusnes y sector cyhoeddus.
Cymerodd Diane Jones, Cyfarwyddwr A2B Associates, ran yn rhaglen beilot Gwasanaeth Adolygu Tendrau'r project: “ Roedd lefel y dadansoddi’n help garw. Doeddwn i ddim yn disgwyl adroddiad deg tudalen yn mynd trwy bopeth yr oeddwn i wedi ei wneud. Roeddwn i wedi gofyn am adborth gan yr awdurdod cyhoeddus a ni chefais feirniadaeth o’r ansawdd hwnnw ganddynt”.
Roedd dros 100 o gynrychiolwyr o fusnesau lleol, elusennau a’r sector cyhoeddus, yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro John Hughes a’r AC Alun Ffred Jones, yn bresennol yn y lansiad yn y Ganolfan Rheolaeth, Bangor yn ddiweddar. Roedd y siaradwyr yn cynnwys Chris Wynne o Wynne Construction ac Ian Forrester Mowatt o Bartneriaeth Gaffael Gogledd Cymru.
Meddai Linda Bailey, perchennog busnes lleol: “Mae 90% o’n gwaith gyda’r awdurdodau lleol felly mae angen gwell dealltwriaeth o'r broses dendro er mwyn cael mwy o lwyddiant. Bydd Ennill wrth Dendro yn ein helpu i weld beth sy’n mynd o’i le a sut gallwn ni wella pethau at y dyfodol".
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm yn winningintendering@bangor.ac.uk neu ewch i’r wefan ar www.bangor.ac.uk/law/winningintendering
Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2011