Mae’r seren garate Emma yn rhagori y tu fewn a’r tu allan i’r dosbarth
Mae myfyrwraig leol sy’n dwlu ar garate yn dathlu math gwahanol o lwyddiant yr wythnos hon, wrth iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd ddosbarth cyntaf mewn Busnes a Chyfrifeg.
Enillodd Emma Sara Hughes, o Fangor, y trydydd marc i’r uchaf yn ei blwyddyn yn yr Ysgol Busnes. Enwebwyd hi ar gyfer un o wobrau mawreddog Dr John Robert Jones, a ddyfernir yn flynyddol i’r myfyrwyr sy’n graddio gyda’r marciau uchaf ar draws y sefydliad, a hi enillodd wobr yr Ysgol am y perfformiad gorau mewn Busnes, Rheolaeth neu Farchnata.
Gan gydnabod ei llwyddiannau a’i phosibiliadau ar gyfer astudiaeth bellach, mae’r cyn-ddisgybl o Ysgol Tryfan hefyd wedi ennill ysgoloriaeth a fydd yn talu ei holl ffioedd dysgu fel y gall hi astudio ar gyfer gradd Meistr trwy Ymchwil yn y Brifysgol ym Medi.
Fodd bynnag, nid y dosbarth yw’r unig le y mae Emma wedi rhagori. A hithau wedi mynd i ddosbarthiadau carate ers iddi fod yn 13 oed, mae hi wedi ennill sawl medal – yn cynnwys 5 medal aur – mewn cystadlaethau yn y DU dros y blynyddoedd. Fodd bynnag, i Emma, cymryd rhan, yn hytrach na’r gwobrau, yw apêl carate.
“Dechreuais wneud carate ar ôl mynd i sesiwn flasu yng Nghanolfan Chwaraeon Maes Glas ym Mangor”, medd y fyfyrwraig 21 oed, a enillodd ei belt du ‘Dan’ cyntaf yn 2011. “O’r sesiwn gyntaf un, roeddwn yn gaeth. Yr hyn rwy’n ei fwynhau fwyaf yw ei fod nid yn unig yn heriol i’r corff, ond ei fod hefyd yn heriol i’r meddwl, a bod rhywbeth newydd i’w ddysgu bob amser fel y gellwch berffeithio eich techneg yn fwy fyth.”
Mae’r fyfyrwraig ymroddedig wedi llwyddo i greu cydbwysedd rhwng ei hastudiaethau a’i chariad tuag at garate gan helpu i drefnu clwb carate Bangor, Seki Ryu Zan, lle mae hi hefyd yn hyfforddwraig. “Gall cymryd sesiwn fod yn anodd iawn, am fod yr ystod oedran yn amrywio rhwng 7 a 60, ac mae eu galluoedd i gyd yn wahanol,” medd Emma, a fu hefyd yn gweithio wrth y dderbynfa ym Maes Glas tra oedd hi’n astudio, “ond rwy’n mwynhau rhannu’r wybodaeth sydd gen i am garate ag eraill, a byddaf yn ceisio eu hysbrydoli hwythau i deimlo’n angerddol tuag ato.”
Yn awr, mae her newydd o’i blaen, wrth iddi baratoi i astudio ar gyfer ei gradd Meistr ym Medi. Dan oruchwyliaeth Dr Doris Merkl-Davies a Dr Tony Dobbins, bydd hi’n edrych ar y modd y mae cyflogwyr, y cyfryngau a’r undebau llafur yn portreadu gwrthdaro o fewn sefydliadau, gan edrych ar drafodaethau sy’n gysylltiedig â streiciau diweddar (e.e. London Underground a streiciau athrawon).
“Dywedodd llawer o bobl y dylwn astudio mewn prifysgol oddi cartref, ond dydw i ddim yn edifarhau o gwbl imi astudio ym Mangor,” meddai, “roeddwn i’n ansicr ynglŷn â pha radd fyddai’n iawn imi, ond gan fod yr holl fyfyrwyr busnes yn astudio’r un modiwlau yn y flwyddyn gyntaf, cefais ddigon o amser i ddod i benderfyniad cyn arbenigo mewn Busnes a Chyfrifeg yn yr ail flwyddyn.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014