Mae rheoleiddio ariannol gwell yn atal camymddygiad, yn ôl astudiaeth
Mae rheoleiddio gwell wedi atal llawer iawn o gamymddwyn ariannol yn y Deyrnas Unedig ers yr argyfwng ariannol byd-eang a fu, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Brifysgol East Anglia (UEA) ac eraill gan gynnwys ni ein hunain.
Ers argyfwng 2007, mae mwy o ymwybyddiaeth o'r risgiau sy'n gysylltiedig ag ymddygiad y sefydliadau ariannol a'u gweithwyr nhw. Ymchwiliwyd i fwy o achosion o gamymddwyn ariannol, ac mae'r rheoleiddwyr wedi rhoi dirwyon uwch ac yn mynnu bod yr elw'n cael ei ad-dalu.
Fodd bynnag, does dim sicrwydd a yw'r newidiadau rheoleiddiol hynny wedi cyfyngu ar faint o gamymddwyn ariannol sydd wedi digwydd ac felly bu'r astudiaeth hon yn ystyried a yw'r rheoleiddwyr wedi gwella eu gallu i ganfod neu i atal camymddygiad ariannol ers diwedd yr argyfwng yn 2010.
Fe wnaeth ymchwilwyr UEA, Prifysgol Bangor, Prifysgol Warwick a Phrifysgol Otago ddadansoddiad a oedd yn gwahaniaethu rhwng canfod a rhwystro camymddygiad ariannol yn ystod y cyfnod 2002-2016.
Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd mewn papur gwaith gan Ganolfan Polisi Cystadleuaeth UEA, yn dangos, er bod achosion o dorri rheoliadau ariannol y Deyrnas Unedig wedi gostwng ar ôl 2010, fod lefel gyfatebol yr atal wedi codi mewn gwirionedd yn y cyfnod hwn.
Mae'r awduron yn dweud o bosib bod hynny oherwydd y newidiadau hysbys i'r strwythurau rheoleiddio, y cosbau effeithiol, neu newid diwylliannol yn niwydiant y gwasanaethau ariannol.
Dywedodd Dr Peter Ormosi, uwch ddarlithydd mewn economeg cystadleuaeth yn Ysgol Fusnes UEA Norwich: "Trwy ymchwilio i'r cyfnodau cyn ac ar ôl yr argyfwng ariannol, dangoswn er bod y cyfraddau canfod ar gyfer torri amodau rheoleiddio ariannol wedi aros yn gyson a bod nifer yr achosion a ganfuwyd wedi gostwng, bu cynnydd mawr yn y gyfradd atal ar ôl 2010.
"Credwn fod yma dystiolaeth gref bod rheoleiddio yn y Deyrnas Unedig wedi gwella ers 2010, a bod y drefn yn fwy effeithiol o ran camymddwyn ariannol yn y blynyddoedd diweddar."
Dywedodd John Ashton, Athro bancio yn Ysgol Fusnes Bangor, ei bod hi'n bwysig asesu i ganfod a fu'r cosbau cynyddol lym yn effeithiol o ran lleihau camymddwyn ac arferion peryglus eraill.
"Er nad yw camymddwyn ariannol ynddo'i hun yn achosi argyfyngau ariannol, mae ymddygiad gwael gan gwmnïau ariannol yn cryfhau'r risgiau macro-ddarbodus, er enghraifft drwy dwyll morgeisi, cam-werthu gwasanaethau ariannol, neu hyd yn oed cam-drin y farchnad," meddai'r Athro Ashton.
"Felly, mae'n bwysig nid yn unig i gyfyngu ar y peryglon a ddaw yn sgil camymddwyn ariannol drwy asesu'r risg yn briodol a chreu sefydliadau ariannol gwydn, mae hefyd angen gwella dulliau o fesur pa mor effeithiol yw'r rheoleiddio i ganfod ac atal er mwyn lleihau camymddygiad y cwmnïau a'r unigolion cymaint ag sy'n bosibl."
Cymhwysodd yr awduron ddull newydd o fesur pa mor effeithiol yw rheoleiddio ariannol o ran canfod ac atal lle mae camymddwyn ariannol yn y cwestiwn, trwy ddefnyddio dull ystadegol a ddefnyddir mewn ymchwil fiolegol, ecolegol a demograffig – sydd wedi ei ddefnyddio yn y gorffennol i asesu meysydd trosedd a throseddu corfforaethol.
Gan ddefnyddio Awstralia yn sail at ddibenion cymharu, defnyddiodd yr astudiaeth ddata o Hysbysiadau Terfynol ac Ymgymeriadau Gorfodi a gyhoeddwyd gan Awdurdod Gwasanaethau Ariannol y Deyrnas Unedig ac Awdurdod Ymddygiad Ariannol a Chomisiwn Gwarannau a Buddsoddiadau Awstralia rhwng 2002 a 2016.
Y papur gwaith 'A yw rheoleiddio ariannol wedi gwella yn y Deyrnas Unedig? A capture-recapture approach to measure detection and deterrence’, John K Ashton, Tim Burnett, Ivan Diaz Rainey, a Peter L Ormosi, a gyhoeddir gan The Centre for Competition Policy: http://competitionpolicy.ac.uk/publications/working-papers
Dyddiad cyhoeddi: 24 Mai 2018