Mae riffiau sy'n profi tymheredd amrywiol yn aml iawn yn fwy tebygol o wrthsefyll gwynnu cwrel
Wrth i wyddonwyr a chadwraethwyr frysio i weithio allan y ffordd orau i warchod riffiau cwrel y byd, mae astudiaeth newydd yn datgelu pam y mae'n ymddangos bod rhai riffiau yn gallu gwrthsefyll gwynnu i'r cwrel yn well yn ystod achosion o gynhesu'r môr, ac maent yn galw am gael casglu data cydraniad uchel.
Mae'r awduron, o nifer o brifysgolion yn America a Phrifysgol Bangor, sy'n ysgrifennu yn Nature Communications yn defnyddio data a gasglwyd o 118 o leoliadau riffiau cwrel ar draws y byd. Maent yn dangos sut gall riffiau brofi newidiadau mewn tymheredd y môr yn ddyddiol, a hynny dros bellteroedd bychain iawn - cyn lleied â degau neu gannoedd o fetrau o'i gilydd - wedi seilio ar eu dyfnder a'u safle ar y riff. Mae tynged gwahanol i'r riffiau hyn pan fydd y môr yn cynhesu am wahanol resymau. Mae riffiau sy'n profi newidiadau yn nhymheredd y môr yn ddyddiol, neu raddfeydd amser y llanw yn arwain at yr achos o gynhesu'r môr, yn gallu gwrthsefyll gwynnu cwrel yn well, megis y cynnydd o 1⁰C mewn ystod tymheredd dyddiol yn lleihau'r posibilrwydd o wynnu mwy difrifol o ffactor o 33.
Yn y tymor byr, mae'r wybodaeth hon yn helpu i egluro dosbarthiad tameidiog gwynnu cwrel ar draws riffiau yn ystod yr achosion o straen thermol. Yn y tymor hir , mae'r wybodaeth yn helpu i nodi riffiau a allai fod â mwy o bosibilrwydd o wrthsefyll straen thermol, gwybodaeth a all helpu i roi arweiniad i gynllunio gofodol y môr a thargedau a blaenoriaethau cadwraeth.
“Mae cynnydd mewn tymheredd y môr ac achosion o gynhesu'r môr oherwydd newid mewn hinsawdd, yn cynrychioli'r bygythiad cyfredol mwyaf i gyfanrwydd ecosystemau riffiau cwrel ar draws y byd” meddai'r cyd-awdur Gareth Williams o'r Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor. “Mae'r achosion hyn o gynhesu wedi dod yn fwy rheolaidd, a rhagwelir y byddant yn parhau i gynyddu yn y degawdau i ddod” meddai Williams.
Mae riffiau cwrel yn cynrychioli un o'r ecosystemau mwyaf amrywiol ar ein planed, gan ddarparu gwasanaethau ecosystem hanfodol, fel diogelwch i bysgodfeydd a glannau, i filiynau o bobl.
“Mae'n hanfodol ein bod ni'n nodi'r dulliau y tu ôl i'r gwrthsefyll ymddangosiadol i wynnu ar rai riffiau" meddai Williams. “Yn bwysig iawn, mae ein canlyniadau yn dangos bod gallu cwrel i wrthsefyll gwynnu mewn mannau y mae'r tymheredd yn amrywio'n fynych, yn digwydd mewn ardaloedd riffiau ledled y byd. Ni ddylai'r newyddion cadarnhaol hwn dynnu oddi wrth yr angen brys i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr i warchod riffiau cwrel ar draws y byd, ond yn hytrach, helpu i roi arweiniad i ddulliau rheoli strategol yn yr interim anochel.”
Dyddiad cyhoeddi: 30 Ebrill 2018