Mae Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth ym Mangor yn cyfrannu at adfer a thrawsnewid tir wedi ei ddiraddio yn Indonesia
Mewn partneriaeth rhwng prifysgolion a sefydliadau masnachol yn Indonesia a'r Deyrnas Unedig, mae Prifysgol Bangor wedi llwyddo i ennill grant o £10,000 gan y Cyngor Prydeinig yn Indonesia i gyllido projectau ymchwil newydd fydd yn helpu i droi hen byllau mwyngloddio yn ôl yn dir cynhyrchiol.
Mae Indonesia'n wlad sy'n gyfoethog mewn adnoddau naturiol ac mae ei heconomi wedi datblygu'n gyflym dros y 10 mlynedd diwethaf; gyda thwf diwydiannau cloddio, megis y diwydiant glo, yn cyfrannu'n fawr at ddatblygiad economaidd y wlad. Un pryder, serch hynny, yw'r problemau amgylcheddol a all godi tra bydd y gwaith cloddio'n mynd ymlaen, ac yn fwy felly ar ôl iddo ddod i ben. Gall y rhain gynnwys dinistrio pridd a choedwigoedd, dŵr asidig yn draenio o fwyngloddiau, llygru aer, dŵr a phridd a chreu gwastraff niweidiol.
Mae prifysgolion a sefydliadau ymchwil, mewn partneriaeth â chwmni mwyngloddio sy'n eiddo i'r wladwriaeth, PT Bukit Asam, wedi ffurfio consortiwm i fynd i'r afael â'r problemau hyn ac i ddatblygu a lledaenu ymarfer gorau fydd o fudd i Indonesia a rhanbarth de ddwyrain Asia. Mae naw o brifysgolion Indonesia'n rhan o'r bartneriaeth - nifer dda iawn - a hefyd chwech o sefydliadau eraill y wlad, o'r sectorau preifat, masnachol a llywodraethol. Bydd y bartneriaeth yn cynnal projectau sy'n berthnasol i'r amryw o heriau amgylcheddol y mae Indonesia yn eu hwynebu. Mae'r projectau hyn yn cynnwys gwella ansawdd pridd a dŵr a datblygu technegau amaeth-goedwigaeth. Hefyd bydd y bartneriaeth yn cynnig cyfleoedd i drefnu ymweliadau cyfnewid academaidd rhwng sefydliadau ac i fyfyrwyr o Indonesia astudio ar gyfer PhD yn y Deyrnas Unedig.
Dywedodd yr Athro Morag McDonald o ADNODD a fu'n arwain y cais llwyddiannus am gyllid "Rydym ni wrth ein bodd yn arwain yr ymchwil hon mewn cydweithrediad â chydweithwyr yn Indonesia a'r Deyrnas Unedig. Mae'r bartneriaeth yn rhoi cyfle i ni ddatblygu a rhannu ein harbenigedd mewn astudio ac adfer hen dirweddau diwydiannol, arbenigedd a ddatblygwyd yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Mae gweithio gyda chydweithwyr yn Indonesia yn gyfle gwych i fynd i'r afael â'r her y mae hinsoddau trofannol yn ei gynnig wrth ystyried llygredd ac adfer."
Yng ngham cyntaf y bartneriaeth bu staff ADNODD (yr Athro Morag McDonald, Dr Paula Roberts a Dr Graham Bird) mewn gweithdy a gynhaliwyd yn SEAMEO BIOTROP, yn Bogor, Gorllewin Java, ddiwedd Mawrth, 2014. Cyn y gweithdy buont yn ymweld â phwll glo PT Bukit Asam yn Tanjung Enim, cronfa lo 6.4 biliwn o dunelli yn Ne Sumatra. Cafodd y grwp gyfle i edrych ar rai o'r problemau amgylcheddol yn ogystal â'r dulliau a fabwysiadwyd gan PT Bukit Asam i fynd i'r afael â'r rhain
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2014