Magwrfeydd larfau pysgod yn llawn plastigau yr un maint â'u bwyd
Mae ymchwil newydd wedi dangos am y tro cyntaf, bod larfau pysgod o amryw o rywogaethau pysgod o wahanol gynefinoedd yn y môr yn cael eu hamgylchynu gan blastigau yn eu hoff gynefinoedd magu ac yn llyncu'r plastigau.
Mae llawer o bysgod môr y byd yn treulio eu dyddiau neu wythnosau cyntaf yn bwydo ac yn datblygu ar wyneb y môr, ond nid ydym yn gwybod llawer am brosesau'r môr sy'n effeithio ar oroesiad larfau pysgod. Larfau pysgod yw'r genhedlaeth nesaf o bysgod aeddfed a fydd yn cyflenwi protein a maetholion hanfodol i bobl ledled y byd. Cynhaliodd Canolfan Gwyddoniaeth Pysgodfeydd Ynysoedd y Môr Tawel NOAA a thîm rhyngwladol o wyddonwyr, gan gynnwys Prifysgol Bangor, un o'r astudiaethau mwyaf uchelgeisiol hyd yma, i daflu goleuni ar y bwlch hanfodol bwysig hwn yn ein gwybodaeth.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth heddiw yn y cyfnodolyn Proceedings of the National Academy of Sciences. Roedd yr astudiaeth wedi cyfuno arolygon towio plancton yn y maes ac uwch dechnegau synhwyro o bell i nodi cynefin magwrfeydd larfau pysgod yn y môr ar arfordir Hawai'i.
Gwelodd y tîm fod stribiau ar wyneb y dŵr yn cynnwys llawer mwy o larfau pysgod nag ar wyneb dyfroedd cyfagos. Mae stribiau arwyneb yn ddŵr llyfn sy'n edrych fel rhubanau ac yn ffurfio'n naturiol ar wyneb y môr. “Maent yn cael eu ffurfio gan brosesau lle mae moroedd yn cwrdd ac fe'u gwelir mewn ecosystemau morol arfordirol ym mhob rhan o'r byd. Mae plancton yn casglu yno hefyd, sy'n fwyd pwysig i larfau pysgod”, meddai Dr. Jamison Gove, eigionegydd ymchwil ar gyfer NOAA a chyd-arweinydd yr astudiaeth.
“Gwelsom fod stribiau'r arwyneb yn cynnwys larfau pysgod o amrywiaeth eang o gynefinoedd y môr, o riffiau cwrel dŵr bas, y cefnfor agored ac o ddyfnderoedd y môr. Nid yw'r pysgod hyn yn rhannu cynefin yn y môr yn y modd hwn ar unrhyw adeg arall yn ystod eu bywydau,” meddai Dr. Jonathan Whitney, ecolegydd morol i NOAA sy'n cyd-arwain yr astudiaeth. “Mae'r stribiau hyn o fagwrfeydd hefyd yn cynnwys llawer o fwyd planctonig, a thrwy hynny yn darparu digonedd o fwyd sy'n hanfodol ar gyfer datblygiad a goroesiad larfau pysgod,” meddai Dr. Whitney.
Roedd y larfau pysgod yn y stribiau arwyneb yn fwy, wedi'u datblygu'n dda, ac yn gallu nofio'n dda. Bydd larfau pysgod sy'n gallu nofio yn ymateb a llywio'n well at eu hamgylchedd, gan awgrymu bod larfau pysgod trofannol yn chwilio am stribiau ar y wyneb er mwyn manteisio ar y crynodiad o fwyd.
“Mae'r canfyddiadau hyn yn bwysig oherwydd eu bod yn tynnu sylw at sut y gall graddiannau cymhleth mewn digonedd o blancton a larfau pysgod ddigwydd yn rhywle y tybir yn aml ei fod yn gynefin dinodwedd ar wyneb y môr,” meddai Dr. Gareth Williams, Athro Cysylltiol mewn Bioleg y Môr yn Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor ac un o brif awduron yr astudiaeth.
Bu'r ymchwilwyr yn mesur maint a dosbarthiad y stribiau ar wyneb y môr gan ddefnyddio lloerennau. Hyd yn oed pan edrychir arnynt o'r gofod, mae stribiau ar y wyneb yn wahanol i weddill y môr. Defnyddiwyd dros 100 o loerennau maint blwch esgidiau wedi'u hadeiladu a'u gweithredu gan Planet Incorporated <https://www.planet.com/>. “Nid oedd stribiau ar y wyneb wedi cael eu mapio erioed o’r blaen, ond roeddem yn gwybod y byddai’n hanfodol er mwyn cynyddu’r astudiaeth yn y maes. Gellir defnyddio'r dull newydd a ddatblygwyd ar gyfer yr astudiaeth hon unrhyw le yn y byd,” nododd y cydawdur Dr. Greg Asner o'r Center for Global Discovery and Conservation Science ym Mhrifysgol Talaith Arizona.
Yn anffodus, gwelodd y tîm hefyd fod prosesau'r môr a oedd yn cronni bwyd ar gyfer larfau pysgod hefyd yn cronni darnau o blastig oedd yn arnofio. “Cawsom ein syfrdanu o weld bod ein samplau yn llawn plastigau,” meddai Dr. Whitney.
Ar gyfartaledd, roedd dwysedd plastig yn y stribiau hyn ar wyneb y môr oddi ar Hawai'i, 8 gwaith yn fwy na'r dwysedd plastig a welwyd yn ddiweddar yn y Great Pacific Garbage Patch. Ar ôl tynnu’r rhwyd 100 gwaith, gwelsant fod 126 gwaith mwy o blastigau wedi eu cronni mewn stribiau ar y wyneb nag mewn dŵr arwyneb ychydig gannoedd o lathenni i ffwrdd. Roedd saith gwaith yn fwy o blastig nag o larfau pysgod y tu mewn i'r stribiau.
Roedd y rhan fwyaf o'r plastigau a welwyd mewn stribiau ar y wyneb yn fach iawn (llai nag 1 mm). Mae'n well gan larfau pysgod gael ysglyfaeth o'r maint hwn. Ar ôl dyrannu cannoedd o larfau pysgod, gwelodd yr ymchwilwyr fod llawer o rywogaethau pysgod wedi llyncu gronynnau plastig. “Gwelsom ddarnau bach iawn o blastig yn stumogau rhywogaethau pelagig a dargedir yn fasnachol, yn cynnwys cleddbysgod a mahi-mahi, yn ogystal â mewn rhywogaethau riffiau cwrel fel pysgod clicied,” meddai Dr. Whitney. Cafwyd hyd i blastigau hefyd mewn pysgod hedegog, y mae ysglyfaethwyr apig fel tiwna a'r rhan fwyaf o adar môr Hawaii yn eu bwyta.
“Mae larfau pysgod yn sylfaenol i swyddogaeth yr ecosystem ac yn cynrychioli carfannau o bysgod aeddfed y dyfodol. Mae'r ffaith bod larfau pysgod wedi'u hamgylchynu gan blastigau ac yn llyncu'r plastigau sydd heb faeth ac yn llawn tocsinau ar yr adeg fwyaf bregus yn eu bywyd pan fo maeth yn hanfodol i oroesi, yn peri braw,” meddai Dr. Gove.
Nid yw ymchwilwyr yn sicr a yw llyncu'r plastig yn niweidiol i larfau pysgod. Mewn pysgod aeddfed, gall plastigau achosi rhwystr yn y perfedd, diffyg maeth a chroniad gwenwynig. Mae larfau pysgod yn hynod sensitif i newidiadau yn eu hamgylchedd a'u bwyd. Gall plastigau maint ysglyfaeth effeithio ar ddatblygiad a hyd yn oed lleihau goroesiad larfau pysgod sy'n eu llyncu.
“Ar hyn o bryd mae bioamrywiaeth a chynhyrchu pysgodfeydd dan fygythiad oddi wrth amryw o ffactorau sy'n achosi straen a achosir gan bobl fel newid yn yr hinsawdd, colli cynefinoedd a gorbysgota. Yn anffodus, mae ein hymchwil yn awgrymu y gallwn yn awr ychwanegu pysgod larfau yn llyncu plastig at y rhestr honno o fygythiadau,” meddai Dr. Gove.
Mae rhai gwyddonwyr yn beirniadu'r sylw a roddir i lygredd plastig. Maent yn dweud ei fod yn tynnu sylw cymdeithas rhag mynd i'r afael â bygythiadau hysbys, mwy difrifol i bysgodfeydd byd-eang.
Ychwanegodd Dr. Williams o Ysgol Gwyddorau'r Eigion Prifysgol Bangor:
“Rydym yn cytuno bod rhaid i leihau allyriadau carbon a dod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy o bysgota fod yn flaenoriaeth, ond mae ein canfyddiadau yn awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach i ddeall pa effaith y mae'r ffaith bod larfau pysgod yn llyncu plastig yn ei gael ar unigolion a phoblogaethau. Mae gennym ni fel cymdeithas y gallu i wneud newidiadau a fyddai’n lliniaru’r straen ar ecosystemau a achosir gan ein gweithgareddau. Ond mae'n rhaid i'r newidiadau hynny ddigwydd nawr, mae amser yn brin”, meddai Dr. Williams.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Tachwedd 2019