Mam arobryn yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig arobryn o Brifysgol Bangor yn graddio’r wythnos hon.
Yn ogystal â derbyn gradd BA Addysg Gynradd SAC, bydd Gwawr Thomas, 33 o Langernyw yn derbyn gwobr Nawdd y Coleg Normal gwerth £500. Dyfernir y wobr hon i fyfyriwr/fyfyrwraig ddwyieithog sy’n gymwys i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, sy’n dangos rhagoriaeth ar brofiad ysgol yn nhrydedd flwyddyn y cwrs hyfforddiant ac addysg gychwynnol i athrawon yr Ysgol.
Mae Gwawr wedi gweithio ym myd addysg ers rhai blynyddoedd fel Cymhorthydd Lefel Uwch, ond yr oedd yn ysu am gael addysgu plant. Tair blynedd yn ôl, penderfynodd Gwawr bod ei phlant yn ddigon hen iddi fynd i wneud hynny; felly, fe wnaeth gymryd y cam mawr o adael ei swydd a mynd i’r Brifysgol i wireddu ei breuddwyd.
Yn falch iawn i fod yn graddio, dywedodd Gwawr: “Mae’n deimlad anhygoel gwybod fy mod yn graddio a gwybod bydd y radd gennyf am byth. Mae hefyd yn adeg cyffroes i fy nheulu a finnau.
“Mae’r fraint o dderbyn Gwobr Nawdd y Coleg Normal yn deimlad gwych. Golygai hyn fod y gwaith called yn ystod yr ymarfer dysgu yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod. Mae hyn yn rhoi hyder i mi ar gychwyn fy ngyrfa fel athrawes.
“Dewisais Bangor ar y sail bod ganddi enw da fel Prifysgol. Yn ogystal â hynny, nid yw Bangor yn rhu bell o ran teithio’n ddyddiol.
“Er nad oeddwn yn gweithio tra roeddwn yn y Brifysgol, roedd cadw tŷ, coginio, darllen a gwneud gwaith cartref gyda’r plant yn dipyn o her ar adegau; ond, roedd rhaid dyfalbarhau gan gael hyd i gydbwysedd i allu llwyddo.
“Roedd profiad gwaith yn rhan o’r cwrs; cefais gyfle i dreulio'r tri chyfnod mewn ysgolion gwych. Cymerais ran yn y ffair Nadolig yn fy ail flwyddyn a llwyddom i ennill gwobr am y stondin orau.
“Mae’i wedi bod yn siwrnai hir a blinedig ar adegau, ond rwyf wedi mwynhau pob eiliad. Fy ngobeithion at y dyfodol yw gwneud gradd Meistr trwy’r Brifysgol wrth addysgu yn fy swydd newydd.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014