Manon Wyn Williams wedi ei henwebu fel y Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg yng Ngwobrau Theatr Cymru
Nos Sadwrn, 27 Ionawr, cynhelir Seremoni Gwobrau Theatr Cymru 2018 yng Nghanolfan Glan yr Afon, Casnewydd. Mae Gwobrau Theatr Cymru yn ‘adnabod rhagoriaeth yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru a rôl beirniadaeth gelfyddydol’. Eleni, enwebwyd Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd Sgriptio a Drama y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol Gymraeg Prifysgol Bangor, yng nghategori’r Dramodydd Gorau yn yr Iaith Gymraeg am ei drama Hollti, a lwyfannwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn ym mis Awst cyn mynd ar daith ledled Cymru yn ystod yr hydref.
Meddai Manon:
“Mae’n fraint cael fy enwebu yn y categori hwn yn enwedig o ystyried yr enwau adnabyddus eraill sydd hefyd wedi eu henwebu ar y rhestr fer. Drama gair am air - verbatim - yw Hollti, ac, felly, ni fyddai’r ddrama’n bodoli o gwbl oni bai am barodrwydd nifer o unigolion i roi eu hamser i gyfrannu at y ddrama. Cywaith yw Hollti mewn gwirionedd ac roedd hi’n bleser cael cofnodi geiriau’r unigolion hyn ar gof a chadw. Diolch iddynt am eu cefnogaeth a’u cydweithrediad a diolch i Theatr Genedlaethol Cymru am y cyfle i lunio’r sgript.”
Ac meddai’r Athro Gerwyn Wiliams, Pennaeth Ysgol y Gymraeg:
“Llongyfarchiadau calonnog iawn i Manon ar ei champ! Dyma’r trydydd tro’n olynol i aelod o Ysgol y Gymraeg gael ei enwebu am y wobr hon. Fe’i henillwyd y llynedd gan Yr Athro Angharad Price am ei drama Nansi a chan Llŷr Titus, un o’n myfyrwyr PhD, gyda Drych cyn hynny. Pob lwc iddi hi a hefyd i Ffion Dafis, un o’n cyn-fyfyrwyr sydd wedi ei henwebu am ei rhan fel yr Arglwyddes Macbeth yn nrama Shakespeare a gyfieithwyd i’r Gymraeg gan y diweddar Gwyn Thomas, un o’r dramâu sy’n rhannu rhestr fer gyda Hollti Manon Williams.”
http://theatr.cymru/portfolio/hollti/
http://www.walestheatreawards.com/the-awards-2018y-gwobrau-2018/
Dyddiad cyhoeddi: 22 Ionawr 2018