Marchnad Nadolig ar ei thwf
Am yr ail flwyddyn yn olynol, cynhaliodd tîm Byddwch Fentrus, y Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Ffair Nadolig myfyrwyr yn Neuadd PJ, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau yn ddiweddar. Cafwyd cefnogaeth ardderchog gan y staff a’r myfyrwyr a hoffai tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a gymerodd ran a chyfrannodd at y llwyddiant.
Agorwyd y Ffair gan Maria Graal, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr Y Brifysgol. Meddai Maria Graal: 'Mae’r ffair Nadolig wedi dyblu o ran maint ers y llynedd. Mae gennym gymaint o ysbryd o fenter ymysg ein myfyrwyr. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi nad yw gwaith y mae Byddwch Fentrus yn ei wneud i hyrwyddo mentergarwch yn cael ei chyfyngu i'r Farchnad Nadolig. Mae gweithgareddau drwy gydol y flwyddyn, felly dylai myfyrwyr gysylltu â Byddwch Fentrus ... Diolch i bawb sydd wedi gwirfoddoli'u hamser a'u harbenigedd ar gyfer heddiw.'
Ychwanegwyd at y naws Nadoligaidd gyda pherfformiad gan y pumawd ‘9 to 5 Brass’ a cherddoriaeth gan Tom Sayer, The Trinity Singers, Cantiqua Nova a Cedric & Friends, pib un ohonynt naill ai’n fyfyrwyr neu staff y Brifysgol. Daeth 1,400 o bobol i’r digwyddiad a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru. Roedd 70 stondin a drefnwyd gan 150 o fyfyrwyr mentrus.
Roedd amrywiaeth ac ansawdd y nwyddau oedd ar werth yn rhagorol, gyda stondinau’n gwerthu gemwaith wedi ei wneud â llaw, anrhegion bach o bob math a theisennau a stondinau raffl. Darparwyd bwyd blasus yn cynnwys mins peis a gwin poeth gan Bwyd@Bangor. Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i staff a myfyrwyr ddefnyddio eu creadigrwydd a’u mentergarwch mewn ffordd hwyliog a diogel, a chodi arian i elusen wrth wneud hynny.
Dywedodd Mark Stevens, deiliad stondin elusen ‘Asha Hope for Girls’, “Hwn ydi’r tro cyntaf i mi brofi digwyddiad o’r math – roedd yn unigryw, hwyliog a chyfeillgar dros ben”. Hoffai’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ddiolch i'r myfyrwyr am eu hymdrechion ac am wneud hwn yn ddigwyddiad mor wych.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2011