Marchnad Nadolig Myfyrwyr lwyddiannus arall
Cynhaliodd y tîm Byddwch Fentrus ym Mhrifysgol Bangor y 7fed Farchnad Nadolig Myfyrwyr yn olynol yn Neuadd PJ cyn y Nadolig.
Unwaith eto mae Marchnad Nadolig Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi denu cefnogaeth aruthrol gan gwsmeriaid ar draws y brifysgol a'r tu hwnt. Roedd cyfanswm o 12 o staff a 178 o fyfyrwyr gyda 82 o stondinau rhyngddynt yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi'u gwneud â llaw, fel gemwaith, celf a chrefft, cardiau ac addurniadau, nwyddau wedi'u gwau a'u crosio, sebonau wedi eu gwneud â llaw, plushies, cacenni, bwydydd rhyngwladol, gwaith celf a ffotograffiaeth. Galwodd dros 2,000 o ymhelwyr heibio yn ystod y prynhawn a chael cyfle i brynu anrhegion unigryw gyda rhan o'r elw yn mynd i elusen.
Bydd stondinwyr wedi ennill 15 o bwyntiau profiad BEA (Gwobr Cyflogadwyedd Bangor) am gynnal stondin, ac ychwaneg o bwyntiau trwy gymryd rhan yn y gweithdai ategol a gynhaliwyd yn ystod yr wythnosau'n arwain at y digwyddiad.
Dywedodd Rhiannon Quirk oedd yng ngofal stondin Little Quirk Plush: ‘Rwyf wedi mwynhau mynychu’r Farchnad Nadolig, mae wedi rhoi cyfle i mi gyfarfod fy nghwsmeriaid a chael adborth. Roedd ffair flwyddyn ddiwethaf yn llwyddiannus ac rwyf yn gobeithio bydd flwyddyn yma'r un fath.’
Cafwyd cerddoriaeth fyw trwy gydol y prynhawn, oddi wrth Fand Pres a Band Cyngerdd Prifysgol Bangor, a hynny’n ychwanegu at y naws lawen.
Rhoddodd llawer o’r stondinwyr rywfaint o’u helw i elusen. Mae’r elusennau sy’n mynd i elwa yn cynnwys Tŷ Gobaith, Gardd Fotaneg Treborth a Snowdonia Animal Sanctuary a llawer mwy.
Bu llawer o Glybiau a Chymdeithasau UM hefyd yn cynnal stondinau er mwyn codi arian at gyllideb eu cymdeithasau, yn cynnwys RAG, y Gymdeithas Cerdded Cŵn, Cymdeithas Myfyrwyr Coedwigaeth Bangor a Chymdeithas Affro-Garibiaidd Bangor.
Aeth y Wobr am y Stondin Orau i fyfyrwyr Sandy Perez-Robles, Andrea Marin-Merizalde a Alejandra Vergara-Pena. Chyflwynwyd y wobr gan Diane Roberts o Brifysgolion Santander.
Dewiswyd gan Cerri Williams o Lywodraeth Cymru Coeden Noeth gan Laura Haggett fel enillydd Cynnyrch Mwyaf Arloesol.
Ar hyn o bryd mae'r Farchnad wedi ei chyllido'n rhannol gan Raglen Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru.
Hoffai tîm Byddwch Fentrus ddiolch i bawb a fu’n cynorthwyo yn ystod y dydd, yn cynnwys y cynorthwywyr o blith y myfyrwyr, y Gwasanaethau Eiddo a Champws am waith y tu ôl i’r llenni wrth helpu i osod y stondinau, y Gwasanaethau Masnachol am helpu gyda'r lluniaeth, Llywodraeth Cymru a Phrifysgolion Santander am noddi'r stondin orau, Tîm Entrepreneuriaeth Ieuenctid Llywodraeth Cymru am noddi'r digwyddiad, ac yn fwyaf oll i'r stondinwyr o blith y myfyrwyr a'r staff am eu brwdfrydedd ac am roi cymaint o ymdrech tuag at greu eu cynnyrch ac am fod yn fentrus!
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2017