Marchnad Nadolig Myfyrwyr Prifysgol Bangor
Os ydych chi'n chwilio am anrhegion Nadolig unigryw ar gyfer eich ffrindiau a'ch teulu, does dim rhaid i chi edrych ymhellach na Marchnad Nadolig Myfyrwyr Prifysgol Bangor, a gynhelir ddydd Gwener, 6 Rhagfyr yn Neuadd Prichard-Jones y Brifysgol, rhwng 12-5pm.
Mae'n ddigwyddiad blynyddol bellach gyda thros 70 o stondinau yn cynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi'u gwneud â llaw, fel gemwaith, cardiau, addurniadau, celf a chrefft, nwyddau wedi'u gwau, bwydydd rhyngwladol, cacennau a siytnis. Rydych chi'n siŵr o ddod o hyd i rywbeth arbennig.
Trefnir y farchnad gan dîm Byddwch Fentrus y Brifysgol, a fydd yn cynorthwyo myfyrwyr a graddedigion i ddatblygu eu sgiliau entrepreneuraidd yn ystod eu hamser yn y Brifysgol drwy weithdai a mentora gan weithwyr proffesiynol profiadol.
Gyda galw mawr am nifer cyfyngedig o stondinau, roedd raid i fyfyrwyr wneud cais am y cyfle i gael stondin i sicrhau y bydd gan y farchnad nwyddau unigryw ac o ansawdd ar gael. Bydd yr amrywiaeth eang o stondinau yn cynnwys myfyrwyr entrepreneuraidd unigol sydd wedi datblygu eu cynnyrch eu hunain, neu grwpiau'n gysylltiedig â chlybiau neu gymdeithasau a allai fod yn codi arian ar gyfer eu clwb neu elusen leol.
Bydd y Gymdeithas Ffotograffau'n gwerthu cardiau cyfarch a phrintiau o ffotograffau o ansawdd uchel a gymerwyd gan ffotograffwyr dawnus o'r Gymdeithas. Bydd groto Siôn Corn yno hefyd, fel y gellwch gael tynnu'ch llun gyda Siôn Corn a'i gorachod. Bydd canran o'u helw yn mynd i'r Gymdeithas i ariannu offer newydd a theithiau maes.
Bu i'r myfyrwyr PhD seicoleg, Sofia Strommer a Naomi Scott, ddechrau eu hanturiaethau pobi fel ffordd i gael gwared ar straen, ond datblygodd yn frwdfrydedd dros addurno llawn dychymyg a chynhyrchu cacennau blasus. Fe wnaethant lansio tudalen Facebook yn ddiweddar, F30 Bakery, i hyrwyddo'u cynnyrch. Bydd eu stondin yn gwerthu casgliad o gynnyrch wedi'u pobi, o deisennau bach â themâu Nadoligaidd, i tortes caramel hallt a siocled. Bydd yr holl elw o'u stondin yn mynd i'r Gymdeithas Dystonia, elusen sy'n rhoi cefnogaeth a gwybodaeth i unigolion gyda Dystonia, anhwylder symud niwrolegol.
Gyda phrofiad o weithio fel pen-gogydd mewn bwyty â sêr Michelin, bydd Joanna Wright, myfyriwr PhD Astudiaethau Creadigol, yn gwerthu amrywiaeth o'i siytnis, jam cartref a chynnyrch wedi'u pobi. Bydd Joanna yn rhoi 10% o'i helw i elusen canser Macmillan.
Bydd Ben Allinson, myfyriwr Eigioneg Ddaearyddol, ynghyd â chyd-fyfyrwyr, yn codi arian i brynu cwch RIB ar gyfer y Gwasanaeth Gwirfoddoli Morwrol (MVS), cangen Porthaethwy. Defnyddir y RIB gan aelodau'r MVS yn ogystal â'r gymuned leol i'w helpu i ennill cymwysterau'r 'Royal Yachting Association' a fydd yn eu helpu i gael swyddi yn y sector morol. Bydd eu stondin yn gwerthu pitsas siocled gyda thema Nadoligaidd.
Yn ystod y digwyddiad bydd cerddoriaeth fyw Nadoligaidd hefyd gan fandiau myfyrwyr, a bydd gwasanaeth arlwyo'r Brifysgol yn darparu lluniaeth fel mins peis a gwin cynnes. Rhoddir gwobr i'r stondin sy'n edrych orau.
Cyllidir y digwyddiad ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Canolbwynt Rhanbarthol rhwng Prifysgol Bangor a Grŵp Menai Llandrillo.
Dyddiad cyhoeddi: 4 Rhagfyr 2013