Marchnad Nadolig y Myfyrwyr yn lwyddiant
Unwaith eto, mae Marchnad Nadolig y Myfyrwyr Prifysgol Bangor wedi denu cefnogaeth ragorol gan gwsmeriaid ar draws y Brifysgol a thu hwnt. Bu i gyfanswm o 150 o fyfyrwyr gyda 70 o stondinau rhyngddynt gynnig amrywiaeth eang o gynhyrchion wedi’u gwneud â llaw, fel gemwaith, gwaith celf, cardiau ac addurniadau, nwyddau wedi’u gwau a’u crosio, cacennau a siytni, bwydydd rhyngwladol, ffotograffiaeth, crochenwaith a groto Siôn Corn. Cafodd dros 1500 o ymwelwyr a ddaeth drwy’r drysau yn ystod y prynhawn gyfle i brynu anrhegion unigryw gydag ychydig o’r elw’n mynd i elusen.
Yn newydd eleni fel cynllun peilot, cafwyd marchnad y myfyrwyr yng nghanol dinas Bangor ar 4 Rhagfyr ar y cyd gyda Grŵp Cymunedol Pobl Bangor, a gynhaliodd wythnos o ddathliadau Nadoligaidd yng nghanol y ddinas. Gosodwyd deg o stondinau myfyrwyr a staff o amgylch y cloc i geisio cael syniad o lefel y diddordeb yn y math yma o weithgarwch. Meddai Paul Jones, Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedol ‘... mae’r wythnos gyfan wedi mynd yn arbennig o dda. Mae’r sylwadau gan y rhai oedd yn gwerthu wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda llawer iawn mwy o bobl o amgylch y lle drwy gydol yr wythnos. Roedd y farchnad fenter yn llwyddiant ysgubol – mae gennym ni’n awr gefnogaeth lawn yr holl fusnesau sydd wedi dod â ni gam yn nes at gynnal marchnadoedd rheolaidd ym Mangor..’
Cyn y digwyddiadau, roedd Byddwch Fentrus yn cynnig gweithdy unwaith-yn-unig arbennig i stondinwyr gan Helen Hodgkinson o’r ‘Mary Portas retail academy’ ar ‘Sut i Werthu’ch Cynnyrch neu Wasanaeth’. Roedd awgrymiadau’n cynnwys meddwl am ymwneud yn well â chwsmeriaid a threfnu nwyddau.
Cyflwynwyd gwobr eleni am y stondin a oedd yn edrych orau, yn erbyn meini prawf o effeithiolrwydd. Bu i’r beirniaid, John Jackson a Mari Roberts o Wobr Cyflogadwyedd Bangor (BEA) gyflwyno’r wobr, sef tocyn £100, i Tinsel a Sbeis, (gwelir llun o’r stondin yma). Dywedodd yr enillwyr, Gwawr Thomas, Jen Lloyd, Beth Roberts a Linda Williams o’r Ysgol Addysg am y digwyddiad - ‘roedd yn seibiant o aseiniadau a groesawyd yn fawr – i fod yn meddwl am rywbeth gwahanol a Nadoligaidd, ac mae’r profiad wedi’n helpu ni i ymarfer ein sgiliau entrepreneuraidd – popeth o brisio i’r gwaith tîm a oedd ynghlwm â meddwl am enw ...’
Darparwyd cerddoriaeth fyw Nadoligaidd a dawnsio gan fandiau myfyrwyr a’r unigolion Tim Price, Tom Sayer, Band Pres y Brifysgol a’r Gymdeithas gerddoriaeth Werin. Roedd Storm FM hefyd yn darlledu’n fyw o’r neuadd.
Fe wnaeth Bwyd@bangor unwaith eto ddarparu bwyd Nadoligaidd poeth bendigedig fel rholiau twrci a rhost cnau, mins peis a gwin cynnes.
Mae’r tîm Byddwch Fentrus yn dymuno diolch i bawb a gyfrannodd at wneud y digwyddiad yn achlysur mor rhagorol i’r Brifysgol.
Fe wnaeth y myfyrwyr a gymerodd ran dderbyn 15 o bwyntiau profiad ar gyfer Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am gynnal stondin yn y farchnad.
Caiff y digwyddiad ei gyllido ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru drwy’r bartneriaeth Canolbwynt Rhanbarthol rhwng Prifysgol Bangor a Grŵp Menai Llandrillo.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2012