Marchnad Wanwyn llwyddiannus
n dilyn llwyddiant Marchnadoedd Nadolig blaenorol, fe wnaeth y tîm Byddwch Fentrus ym Mangor gyflwyno achlysur newydd sbon – sef ‘Marchnad Wanwyn’ myfyrwyr a gynhaliwyd yn Neuadd PJ ddydd Gwener 16 Mawrth. Cafodd llawer o fyfyrwyr newydd, yn ogystal â rhai a fu’n cadw stondinau mewn marchnadoedd blaenorol, gyfle i ddangos eu sgiliau mentergarwch gan gynnig syniadau unigryw am anrhegion – gallodd prynwyr gael gafael ar anrhegion gwreiddiol iawn at Sul y Mamau a’r Pasg. Roedd amrywiaeth hynod o nwyddau wedi’u gwneud â llaw ar gael – yn cynnwys gwaith celf gwreiddiol a chardiau cyfarch, gemwaith unigryw, nwyddau wedi’u gwau a’u crosio, dillad o safon a bwydydd blasus o amrywiaeth o wledydd. Roedd y lle’n gyforiog o ysbryd y gwanwyn gyda lliwiau llachar a digon o Gennin Pedr. Roedd hwn yn gyfle i bawb brynu rhywbeth bach personol a chefnogi ysbryd creadigol myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol.
Cafwyd adloniant gan nifer o ddifyrwyr gwirfoddol, megis Tom Sayer (gitarydd) a Capoeira (grŵp o Frasil sy’n cyfuno elfennau o ddawns a cherddoriaeth) ac ychwanegodd hynny at yr ysbryd o garnifal a sicrhau bod awyrgylch hwyliog lond y neuadd. Roedd bwyd poeth a chacennau ar gael, diolch i Bwyd@bangor
Meddai un o’r stondinwyr "Roedd y farchnad yn wych; fe wnes i dipyn o arian, gwneud rhywbeth dwi’n ei wir fwynhau a chael llawer iawn o ganmoliaeth!”, ac meddai un arall "Fe wnaethom fwynhau ein hunain ac, yn bwysicach mae’n debyg, fe wnaethom ddysgu llawer am fusnes go iawn; gymaint felly fel y byddwn yn rhoi cynnig arall arni mae’n debyg!”
Cafwyd ymateb brwdfrydig gan gwsmeriaid hefyd, gydag un yn dweud “Fe wnaeth y dewis mawr o grefftau cartref argraff fawr arna i ac roedd yr awyrgylch yn wych,” ac un arall “Roedd yr adloniant yn wych; rhan orau’r diwrnod oedd gwylio Capoeira yn perfformio.”
Casglwyd cyfanswm o £123 mewn rhoddion ac fe'i rhennir rhwng y difyrwyr gwirfoddol ac elusennau lleol a ddewiswyd gan y stondinwyr.
Meddai Maria Graal, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr, a siaradodd wrth agor yr achlysur: “Gan adeiladu ar lwyddiant y ddwy Farchnad Nadolig Myfyrwyr flaenorol, mae ein Marchnad Wanwyn gyntaf yn tystio i'r awch am entrepreneuriaeth sydd ymysg ein myfyrwyr. Mae rhaglen weithgareddau Byddwch Fentrus gydol y flwyddyn yn cefnogi a hyrwyddo sgiliau entrepreneuriaeth ymysg ein myfyrwyr, ac mae'r marchnadoedd myfyrwyr yma'n gyfle gwych i dynnu sylw at yr holl ddoniau ac egni entrepreneuraidd a welir ym Mhrifysgol Bangor.'
Hoffai’r Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ddiolch i'r holl staff a myfyrwyr a ddaeth i gefnogi'r achlysur hwn, yn ogystal â’r myfyrwyr hynny a roddodd eu hamser a’u hegni i sicrhau ei fod yn gymaint o lwyddiant.
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mawrth 2012