Mark yn paratoi at daith feicio o amgylch y byd
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn paratoi at daith feicio arbennig iawn o gwmpas y byd ar ôl iddo raddio'r wythnos hon.
Mae Mark Phillips, 22, o Tameside, Manceinion, sy'n astudio Cemeg ym Mangor ar hyn o bryd, yn bwriadu ymweld â 50 o ryfeddodau mwya'r byd ar ei feic dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae Mark, ynghyd â Russell Selby, o Brifysgol Loughborough a Jacob Mellor, sydd wedi graddio o Brifysgol Caeredin, yn gobeithio y bydd y daith uchelgeisiol yn llwyddiant mawr.
Meddai Mark: "Rydym yn adnabod ein gilydd ers ein cyfnod yn astudio yng Ngholeg Chweched Dosbarth Audenshaw - felly rydym yn gwybod ein bod yn cyd-dynnu'n ddigon da i wynebu'r her eithriadol yma. Yn ystod yr haf ar ôl ein blwyddyn gyntaf mewn prifysgol fe wnaethom deithio o gwmpas Gorllewin Ewrop mewn fan, felly rydym wedi arfer â chael ambell i ffrae a chymodi wedyn."
"Rydw i eisiau gwneud yr her yma gan y bydd yn rhoi cyfle i mi feicio o amgylch y byd a byw bywyd syml, a hefyd godi arian at yr elusennau o'n dewis.
"Efallai y byddaf yn hiraethu dipyn am gartref, ond dydw i ddim yn poeni am aberthu moethau cartref am ychydig flynyddoedd! Rydym yn bwriadu gweithio ar ein taith - rydw i'n hyfforddwr dringo ac mae Jacob yn hyfforddwr sgïo, felly dwi'n siŵr y gallwn gael rhyw fath o waith yn rhywle.
"Does gennym ni ddim llwybr penodol gan fod rhaid i ni fod yn hyblyg, rhwng fisas a phopeth. Ond i ddechrau, rydym yn gobeithio gweld hanner cant o brif ryfeddodau'r byd. Mae'r rhain yn cynnwys Dinas y Fatican, Wal Fawr China, Y Barriff Mawr, Cerflun Crist y Gwaredwr a Teotihuacan.
Ychwanegodd am Fangor: "Deuthum i Fangor oherwydd y lleoliad godidog a'r ffaith eich bod mor agos at y mynyddoedd a'r môr; felly, beth bynnag yw'r chwaraeon sy'n mynd â'ch bryd, gellwch eu gwneud yma ar garreg eich drws."
I gael mwy o wybodaeth am daith Mark, ewch i'r wefan
I noddi Mark, gellir cael manylion yn yma
Facebook: Wonders of the World Charity Cycle
Twitter: Wonders of the World @charitycycle13
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013