Mawrth yw mis menter
Mae wedi bod yn fis gwych i fyfyrwyr Bangor a fu’n cymryd rhan mewn cystadlaethau a digwyddiadau menter:
Cynhaliwyd yr Her Brentisiaid Genedlaethol (NAC) ar 21 a 22 Mawrth 2015. Roedd tîm Bangor, ‘Ignite’ y cynnwys Daniel Taylor, Rhiannon Willmot, Shubhankar Gupta a Faris Alhussaini. NAC yw’r gystadleuaeth breswyl fwyaf yn y DU ar gyfer myfyrwyr creadigol ac uchelgeisiol. Mewn timau o bedwar, cymerodd myfyrwyr o bob cefndir ran mewn rhaglen oedd yn cynnwys sialensiau ymarferol a fu’n gymorth iddynt adnabod eu cryfderau unigol ac i’w paratoi ar gyfer y dyfodol. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i rwydweithio â chyflogwyr o fri a phobl o gyffelyb fryd, gyda’r posibilrwydd o gael interniaethau rhyngwladol â thâl ar sail eu perfformiad.
Yn dynn wrth sodlau’r NAC, daeth cystadleuaeth FLUX 2015, a gynhaliwyd ar 23 a 24 Mawrth. Bu tîm o Fangor, sef Dan Taylor, Kate Isherwood, Rhi Willmot, Shingi Manhambara a Michael Chapman, y cystadlu yn erbyn timau o bob cwr o’r DU mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerhirfryn. Aeth Dr Caroline Bowman a Rob Laing gyda’r tîm. Cymerodd nifer o’r prif recriwtwyr ran, yn cynnwys Santander ac IBM, gan roi cyfle i’r myfyrwyr greu argraff dda a dysgu medrau hollbwysig ar gyfer cyflogadwyedd. Cafodd y timau dasg i weithio arni yn ystod y ddau ddiwrnod, a chawsant feirniadaeth gan banel o arbenigwyr diwydiannol ar eu stondin ar yr ail ddiwrnod. Roedd y dasg yn gofyn am i’r myfyrwyr ddatrys problem mewn bywyd real mewn modd creadigol; yn achos tîm Bangor, roedd yn ymwneud â strap arddwrn a oedd wedi’i gynllunio i fonitro lefelau siwgr mewn plant â chlefyd siwgr.
Meddai Rhi Willmot, “Roedd y profiad yn agoriad llygad, ac roedd yn wych cynrychioli Bangor yn y gystadleuaeth hon ar gyfer y cyfan o’r DU.”
Meddai Dr Caroline Bowman, “Roedd yn dasg anodd i aelodau’r tîm, a buont yn gweithio’n galed dros ben i gyflwyno syniadau o fewn cyfnod byr. Rhoesant gyflwyniad gwirioneddol dda, gan ateb rhai cwestiynau anodd iawn gan y beirniaid. Bydd y profiad yn bendant yn eu helpu yn eu gyrfaoedd i ddod a hefyd yn eu helpu i’w hamlygu eu hunain mewn cyfweliadau.”
Ddydd Gwener 13 Mawrth, yn seremoni Gwobrwyo Entrepreneuraidd Santander, bu pum myfyriwr o Fangor yn cyflwyno syniadau i banel o feirniaid, yn cynnwys yr Is-Ganghellor, yr Athro John Hughes. Carley Williams, sy’n astudio Dylunio Cynnyrch, oedd y myfyriwr israddedig buddugol, gyda’i syniad ar gyfer peg bwydo meddygol, a Hernan Diazgranados, o Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, enillodd yn yr adran ôl-raddedigion, gyda syniad o raglennig ffrydio cerddoriaeth ar gyfer carioci. Enillodd y naill a’r llall £200 yn rownd Bangor o’r gystadleuaeth hon, ac maent wedi cyflwyno eu syniadau i gam nesaf y gystadleuaeth, ar gyfer rownd derfynol y DU, lle mae’r wobr hyd at £20,000.
Mae myfyrwyr yn ennill pwyntiau xp Gwobr Cyflogadwyedd Bangor am gymryd rhan yn y cyfan o’r gweithgareddau hyn.
Trefnwyd y cystadlaethau hyn ar ran Prifysgol Bangor gan Byddwch Fentrus, a gafodd gyllid trwy Ganolbwynt Rhanbarthol Gogledd-Orllewin Cymru. Cyllidir y Canolbwynt hwn yn rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru er mwyn gweithredu’r Strategaeth Entrepreneuriaeth Ieuenctid i Gymru.
Dyddiad cyhoeddi: 30 Mawrth 2015