Medal Efydd i Tesni!
Mae Tesni Evans, deiliad un o fwrsariaethau Athletwyr Lleol Prifysgol Bangor, wedi ychwanegu medal Efydd at gyfanswm cyfredol Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia, drwy drechu Nicol David o Malaysia mewn gornest wefreiddiol ar yr Arfordir Aur.
Roedd Tesni wedi cyrraedd y rownd gyn-derfynol mewn modd rhyfeddol, gan lwyddo yn erbyn Laura Massaro o Loegr heb golli gêm ac ailadrodd ei buddugoliaeth dros cyn Rhif 1 y Byd yn y National Championships ym mis Chwefror. Er iddi golli yn erbyn Sarah-Jane Perry o Loegr yn y rownd gyn-derfynol, llwyddodd Tesni i gyflawni camp arall drwy sicrhau’r Efydd â buddugoliaeth dros Nicol David, deiliad dwy fedal Aur mewn Gemau blaenorol ac un o fawrion y gêm fodern.
Yn ogystal ag ychwanegu at gyfanswm cyfredol Cymru, mae buddugoliaeth Tesni yn ychwanegu medal arall i Fangor, a hynny yn dilyn llwyddiant Gaz Evans wrth sicrhau’r Aur yn y gystadleuaeth codi pwysau yn gynharach yn y Gemau.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Ebrill 2018