Medal y Dysgwyr i Megan
Llongyfarchiadau mawr i Megan Elias, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn Ysgol y Gymraeg, ar ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn y Fflint ddydd Mawrth, 31 Mai.
Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn ei Gymreictod. Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut y mae ef neu hi yn defnyddio’r iaith bob dydd yn yr ysgol, y coleg neu’r brifysgol a hefyd yn gymdeithasol.
Eleni, bu peth newid i drefn y gystadleuaeth gyda dysgwyr Cymraeg rhwng Blwyddyn 10 ac o dan 25 oed yn cael cystadlu. Roedd gofyn i bob ymgeisydd lenwi’r ffurflen gais yn nodi eu rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg ac effaith y Gymraeg ar eu bywydau a’r defnydd a wnânt o’r Gymraeg. Yna, o blith y ceisiadau, dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd rhan mewn rownd gynderfynol yng nghanolfan yr Urdd yng Nglan-llyn, lle y pennwyd cyfres o dasgau amrywiol gan y beirniaid, Nia Parry ac Enfys Thomas, i brofi gallu’r ymgeiswyr i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Dewiswyd tri chystadleuydd, yn cynnwys Megan, o’r rowndiau cynderfynol i gystadlu yn y rownd derfynol a gynhaliwyd ddydd Mawrth yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint, cyn cyhoeddi enw’r enillydd mewn seremoni yn y Pafiliwn.
Meddai Megan pan glywodd ei bod wedi cyrraedd y rownd derfynol:
“Penderfynais gystadlu yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni oherwydd bod yr Urdd yn golygu cymaint i mi ac roedd llawer o bobl wedi dweud y dylwn fynd amdani. Mae cyrraedd mor bell â hyn yn golygu cymaint i mi oherwydd y byddaf yn cystadlu ar faes yr Urdd, lle y cefais fy ysbrydoli yn 2014 yn y Bala, a phenderfynais fy mod eisiau dysgu’r Gymraeg a’i hastudio hi ym Mhrifysgol Bangor.
“Ni fyddwn lle ydw i heddiw heblaw fy mod wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd y diwrnod hwnnw ac o ganlyniad, mae’r Urdd wedi newid fy mywyd yn hollol.
“Mae’n fodd i mi ddiolch a dangos fy ngwerthfawrogiad i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dysgu’r iaith yn cynnwys fy athrawon Cymraeg yn Ysgol Eirias, fy narlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, staff yr Urdd, fy ffrindiau yn neuadd J.M.J. a phawb adref!”
Meddai un o’r beirniaid, Enfys Thomas:
"Mae Hannah Cook, Megan Elias a Bradley Jones – y tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol - wedi profi i ni ei bod hi'n bosibl dysgu'r Gymraeg at safon uchel iawn, a mwynhau'r gymdeithas sy'n dod o fedru'r ddwy iaith a chael dwywaith y dewis.
"Rydym fel beirniaid yn ffyddiog y bydd y tri yn ysbrydoli pobl ifanc, sy ddim yn siarad Cymraeg eto, i ddilyn eu hesiampl.
"Roedd yn waith anodd iawn eu rhannu ond mae Megan yn enillydd teilwng iawn o'r Fedal."
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2016