Medalau Hanesyddol yn mynd i ocsiwn
Bydd medalau a fu’n perthyn i wyddonydd o Fangor yn mynd i ocsiwn yr wythnos yma (Iau 21 Gorffennaf).
Y medalau a ddyfarnwyd i Dr Harold King yw Lot 167 a 168 yng ngwerthiant ‘Orders, Decorations, Campaign Medals and Militaria’ Spink.
Graddiodd Dr Harold King mewn cemeg ym Mhrifysgol Bangor (Coleg Prifysgol Gogledd Cymru ar y pryd) ym 1909.
Gwaith Dr King ar curare, gwenwyn o Dde America a’i sefydlodd fel cemegydd o fri. Defnyddiwyd curare ers canrifoedd fel gwenwyn parlysu gan nifer fawr o’r brodorion yn Ne America. Er yn adnabyddus, nid oedd mecanwaith y gwenwyn yn hysbys yn nechrau’rr 20fed ganrif.
Bu i Dr King ganfod y tocsin o fewn y gwenwyn yn 1935 ac aeth ymlaen i gadarnhau ei strwythur. Roedd ei ganfyddiad yn gymorth yn gychwynnol i waith llawfeddygol , ond arweiniodd yn y man at ddatblygiad y cyffuriau cyntaf i fod ar gael yn eang at ddefnydd pwysedd gwaed uchel (hypertension).
Roedd Dr Harold King yn gyn-ddisgybl o Ysgol Friars, Bangor. Fe enillodd sawl ysgoloriaeth i astudio yn y Brifysgol, lle bu’n astudio dan ofal yr Athro Kennedy Orton.
Yn fab i ysgolfeistr, wedi iddo raddio ac ennill gradd uwch, aeth Harold King i weithio yn Labordai Wellcome y Cyngor Ymchwil Meddygol, ac yna gyda’r Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Meddygol nes ei ymddeoliad yn 1950. Fe’i hetholwyd yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol yn 1933.
Yn yr arwerthiant mae ei CBE ynghyd â’i Hanbury Gold Medal (1941), a’i Addingham Gold Medal. Dyfarnwyd medal Hanbury “…for high excellence in the prosecution or promotion of original research in the natural history and chemistry of drugs” ac mae’n adlewyrchu pwysigrwydd cyraeddiadau Dr King.
Meddai Dr Mike Beckett, Pennaeth Ysgol Cemeg, Prifysgol Bangor:
“Wrth i ni ddathlu cenhedlaeth arall o fyfyrwyr cemeg yn graddio o Fangor, mae’n gyfle i’n hatgoffa bod Ysgol Gemeg Bangor, er yn fach o ran maint, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r maes. Byddai King wedi ei addysgu gan yr Athro Kennedy Orton, gwyddonydd hynod a daeth hefyd yn FRS yn 1921, fel y gwnaeth pum Athro Cemeg cynta’r Brifysgol. Dyrchafwyd pump o gyn fyfyrwyr Orton yn Athrawon mewn Cemeg - record a fyddai’n llwyddiant ysgubol heddiw!
Amcangyfrifir gan Spink & Son y bydd y medalau’n hawlio £1,600-2,300.
Yn ôl yr arwerthwr Marcus Budgen “Mae llwyddiannau Dr King a phwysigrwydd gwyddonol ei ganfyddiadau yn gwneud y rhain yn bethau prin. Rydym yn disgwyl llawer o ddiddordeb yn y medalau.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2016