Megan yn cyrraedd rownd derfynol Medal y Dysgwyr!
Testun llawenydd mawr oedd clywed fod Megan Elias, myfyrwraig yn ei hail flwyddyn yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor, wedi cyrraedd rownd derfynol Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni:
‘Nod y gystadleuaeth yw gwobrwyo unigolyn sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalchïo yn eiG/Chymreictod. Bydd Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i unigolyn sydd yn dangos sut mae ef/hi yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol ac yn gymdeithasol.’
Eleni, bu peth newid i drefn y gystadleuaeth gyda dysgwyr Cymraeg rhwng Bl. 10 ac o dan 25 oed yn cael cystadlu. Roedd gofyn i bob ymgeisydd lenwi’r ffurflen gais yn nodi eu rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg ac effaith y Gymraeg ar eu bywydau a’r defnydd a wnânt o’r Gymraeg. Yna, o blith y ceisiadau, dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus i gymryd rhan mewn rownd gynderfynol yng Nglan-llyn, lle pennwyd cyfres o dasgau amrywiol gan y beirniaid, Nia Parry ac Enfys Thomas, i brofi gallu’r ymgeiswyr i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg:
‘Roedd 11 ohonom yno yng nghwmni’r beirniaid gyda chriw camera a staff Glan-llyn. Gwnaethom amryw o weithgareddau mewn grwpiau trwy'r dydd fel dringo, adeiladu rafft, cyfeiriadu a thasg ysgrifennu er mwyn i ni fwynhau ond hefyd i asesu sut yr oeddem yn gallu cyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd hefyd rhaid i ni gael cyfweliadau gyda’r beirniaid a chyflwynwyr S4C er mwyn iddynt ddod i’n hadnabod yn well a dysgu mwy am beth y mae’r Gymraeg yn ei olygu i ni.’
Dewiswyd 3 chystadleuydd, yn cynnwys Megan, o’r rowndiau cynderfynol i gystadlu yn y rownd derfynol a gynhelir ar ddydd Mawrth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Sir y Fflint, cyn dyfarnu pwy fydd yn deilwng o Fedal y Dysgwyr:
‘Penderfynais gystadlu yng nghystadleuaeth Medal y Dysgwyr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni oherwydd bod yr Urdd yn golygu cymaint i mi ac roedd llawer o bobl wedi dweud y dylwn fynd amdani. Mae cyrraedd mor bell â hyn yn golygu cymaint i mi oherwydd y byddaf yn cystadlu ar faes yr Urdd, lle y cefais fy ysbrydoli yn 2014 yn y Bala, a phenderfynais fy mod eisiau dysgu’r Gymraeg a’i hastudio hi ym Mhrifysgol Bangor. Ni fyddwn lle rydw i heddiw pen a bawn i wedi ymweld ag Eisteddfod yr Urdd y diwrnod hwnnw ac o ganlyniad, mae’r Urdd wedi newid fy mywyd yn hollol ac rwy’n hynod falch o gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth hon. Mae’n fodd i mi ddiolch a dangos fy ngwerthfawrogiad i bawb sydd wedi fy nghefnogi dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn dysgu’r iaith yn cynnwys fy athrawon Cymraeg yn Ysgol Eirias, fy narlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Bangor, staff yr Urdd, fy ffrindiau yn Neuadd J.M.J. a phawb adref!’
Yn ystod ei chyfnod ym Mangor, mae Megan wedi cofleidio’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ac yn mwynhau gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg a mynychu eisteddfodau ac yn gynharach eleni fe gipiodd Fedal y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Ryng-golegol.
Meddai Dr Manon Wyn Williams, darlithydd gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac un o athrawon Megan ym Mangor, ‘rydym oll, yn staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg, yn arbennig o falch o lwyddiant Megan. Mae’n fyfyrwraig gydwybodol a hoffus sydd bob amser yn barod iawn ei chymwynas ac yn gefnogol iawn o fyfyrwyr eraill sy’n ddysgwyr Cymraeg. Mae ei hangerdd tuag at yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn rhan anhepgor ohoni. Dymuniadau gorau i ti, Megan, a llongyfarchiadau i ti ar gyrraedd y rownd derfynol!’
Dyddiad cyhoeddi: 19 Ebrill 2016