Menter drwy Ddylunio
Mewn project arbrofol a ddatblygwyd i Ganolfan Pontio, gwelwyd academyddion o wahanol adrannau ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda myfyrwyr, staff cefnogi menter a phartneriaid busnes lleol. Gyda'i gilydd maent wedi llunio dull newydd o ddysgu arloesi a menter, gyda myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio technoleg yn greadigol ar gyfer anghenion dynol.
Mae 48 o fyfyrwyr Prifysgol Bangor wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth i ennill hyd at £2,500 o arian gwobrau i weld datblygu eu cynnyrch arloesol eu hunain yn barod i'r farchnad. Heriwyd myfyrwyr 'Menter trwy Ddylunio’ i ddylunio cynnyrch o’r syniad gwreiddiol i’r prototeip ac i roi anerchiad yn hyrwyddo’r cynnyrch i banel o feirniaid.
Cyflwynir 'Menter trwy Ddylunio' gan Dîm Arloesi Pontio, Project Byddwch Fentrus, ac academyddion o'r ysgolion Peirianneg Electronig, Dylunio Cynnyrch, Seicoleg a Busnes, ac yn y project mae myfyrwyr israddedig o’r pedwar maes pwnc arbenigol yn gweithio mewn timau amlddisgyblaethol. Gosodwyd her eleni gan DMM International, cwmni o Lanberis sy’n cynllunio a chynhyrchu offer dringo, mynydda a gwaith diwydiannol o uchder. Gwahoddodd DMM y timau i gynnig ‘cysyniad cynnyrch newydd i ddringwyr ifanc’.
Y panel beirniadu oedd David Noddings a Paul Edwards o DMM International; Yr Athro David Shepherd, Dirprwy Is-ganghellor, Dewi Hughes, Cyfarwyddwr Gweithredol Pontio, Phil Nelson, Cyfarwyddwr Surf-Lines, a Paola Dyboski-Bryant o Dr Zigs. Ymunwyd â’r panel hefyd gan banel o feirniaid iau yn cynnwys pump o blant rhwng 7 ac 14 oed.
Dyfarnwyd £2,500 i’r tîm buddugol ‘Carnation’ i ddatblygu eu cysyniad – Clip N Climb. Mae eu cysyniad yn ddull arloesol a llawn hwyl sy'n galluogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau dringo, dysgu dulliau dringo, cofnodi'r hyn maent yn ei gyflawni a mynd â'r profiad dringo gartref gyda hwy.
Meddai’r Athro David Shepherd: "Mae Menter drwy Ddylunio'n ymgorffori popeth y dylai addysg brifysgol fodern ymwneud â hi; creadigrwydd, cysylltu ar draws y disgyblaethau, creu rhywbeth o ddim mewn gwirionedd ond gweithio o fewn disgyblaethau hefyd, oherwydd mae'r cyfarwyddiadau'n nodi cyfyngiadau'r hyn y gellwch ei wneud i gynllunio cynnyrch sy'n cyflawni'r briff. Felly, rwy'n siŵr bod y myfyrwyr sy'n gwneud hyn yn cael mwy o brofiad o'r byd go iawn ohono nag y byddent yn ei gael drwy dreulio 20 awr mewn unrhyw ystafell ddarlithio."
Ac meddai Dr Andy Goodman, Cyfarwyddwr Dylunio Pontio: "Mae myfyrwyr yn dysgu o oedran cynnar bod llwyddiant yn dod o fedru rhoi atebion cywir i gwestiynau arholiad. Mae arholiadau'n bwysig, ond nid yw datrys problemau sydd ag atebion safonol iddynt yn fodd i ddatblygu'r sgiliau a'r profiad sydd ei angen i fod yn llwyddiannus mewn byd cymhleth, sy'n newid o hyd ac o hyd. Rydym yn edrych ar ffyrdd o greu profiadau addysgol sy'n ysbrydoli creadigrwydd, meithrin arloesi a chefnogi mentrau dilynol.
I arloesi'n llwyddiannus, rhaid edrych ar broblemau cymhleth a chanfod atebion nad yw eraill wedi'u cael. Gall cydweithio o fewn tîm o arbenigwyr o ddisgyblaethau eraill helpu i sicrhau fod pob agwedd ar broblem yn cael eu deall. Ond daw sialensiau yn sgil hynny hefyd; er enghraifft, gwneud synnwyr o'r broblem, cyfathrebu'n rhwydd a chytuno ar ddull o weithredu. Wrth wynebu'r sialensiau hynny datblygir sgiliau a cheir profiad sy'n meithrin hyder a dyfalbarhad."
Meddai John Jackson, Rheolwr Gwobr Cyflogadwyedd Bangor: “Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon yn talu ar ei ganfed i'r myfyrwyr. Yn y dyfodol byddant yn symud ymlaen i chwilio am swyddi a chael cyfweliadau a byddant bryd hynny'n defnyddio'r sgiliau y maent wedi'u dysgu yma. Mae’r rhain yn cynnwys sgiliau cyflwyno, sgiliau gwaith tîm, ymwybyddiaeth fasnachol ac, yn allweddol, gweithio gyda phobl o adrannau eraill. Rwy'n credu fod Menter trwy Ddylunio yn rhan allweddol o’r Wobr Cyflogadwyedd o safbwynt menter ac entrepreneuriaeth."
Meddai Dave Noddings, Rheolwr Cynhyrchu DMM: "Fe wnaeth pob un o'r tri thîm ddaeth i'r brig ddangos gwaith tîm gwych, cydweithio a dealltwriaeth o arbenigeddau ei gilydd er mwyn cyflawni'r briff a chynnig atebion arloesol. Gyda mwy o amser, gallai'r cysyniadau hyn gael eu gwireddu'n fasnachol a dyna, yn fy marn i, yw'r hyn y mae'r rhaglen hon yn anelu at ei gyflawni. Mae wedi rhoi golwg i'r myfyrwyr ar y ffordd mae diwydiant yn gweithio ac wedi helpu i'w paratoi'n well at y dyfodol. Fe wnaeth Team Carnation roi cyflwyniad ardderchog, fe wnaethant weithio'n wych fel tîm a chyflwyno cysyniad y gellid ei ddatblygu ac sy'n dangos cryn botensial."
Meddai aelodau Team Carnation, a oedd wrth eu bodd gyda'u llwyddiant:
"Cefais brofiad gwych drwy'r broses hon. Roeddwn yn pryderu ar un cyfnod ei fod yn effeithio ar fy astudiaethau ond rwyf mor falch na wnes i roi'r gorau iddi, gan fod y manteision yn sicr yn werth yr ymdrech ychwanegol. Mae'r project yma wedi gwneud i mi sylweddoli y gall seicoleg chwarae rhan wirioneddol bwysig mewn busnes, a byddaf yn edrych ymhellach ar hyn yn y dyfodol," meddai Kate Hobson o Hwlffordd, sy'n astudio Seicoleg.
"Mi wnes i gyfarfod rhai o'r bobl orau rydw i wedi eu cyfarfod ers amser maith. Mae'n wych gweld fel y daeth ein holl ddisgyblaethau gwahanol at ei gilydd i wneud project mor arbennig. Dwi'n credu'n sicr mai prif gryfder y briff dylunio yma ydi ei fod yn dod â phawb at ei gilydd i greu syniadau arloesol newydd sbon. Mae'r broses yma wedi gwneud i mi edrych ar bethau'n wahanol at y dyfodol. Fe alla i weld erbyn hyn sut y gallaf ymwneud â disgyblaethau eraill, fel busnes a seicoleg, yn hytrach na dim ond troi ym myd peirianneg yn unig," meddai Mathew Clewlow o Fangor sy'n astudio yn yr Ysgol Peirianneg Electronig.
Meddai Lucy Murphy-Barlow o Sir Fôn, sy'n astudio Dylunio Cynnyrch: "Wnes i erioed weithio mewn sefyllfa dîm fel hon o'r blaen, felly mae'r profiad wedi bod yn werth chweil. Rydw i wedi dysgu sut reoli project yn effeithiol. Mae wedi bod yn hwyl ac yn wirioneddol wahanol. Cefais gyfarfod â phobl o wahanol gefndiroedd, gydag un aelod o'r tîm yn dod yr holl ffordd o China, felly fe wnaethom ddysgu sut i ddod dros unrhyw rwystrau iaith. Mae wedi bod yn ffordd wirioneddol dda o gyfathrebu a chydweithio ac alla i ddim credu ein bod wedi ennill. Mae wedi bod yn werth y nosweithiau hwyr yn sicr."
Meddai Wan Qiang, myfyrwyr Busnes sy'n dod o China, "Y penderfyniad gorau rydw i wedi'i wneud yw dod i Fangor ac ymuno â Team Carnation! Byddaf yn sôn wrth fy ffrindiau i gyd am Fangor a phrofiad mor rhyfeddol rydw i'n ei gael yma."
Dyddiad cyhoeddi: 13 Mehefin 2013