Menter trwy Ddylunio yn mynd yn ddigidol ac yn ffynnu yn ystod cyfnod anodd
Er gwaethaf yr heriau gweithio'n ddigidol yn unig, mae Menter trwy Ddylunio unwaith eto wedi cynhyrchu cysyniadau busnes arbennig gyda'r 11 tîm yn creu cynnwrf ymysg y cwmnïau sy'n cydweithio.
Roedd rhaglen amlddisgyblaethol Menter trwy Ddylunio Prifysgol Bangor yn edrych ychydig yn wahanol eleni.
Mae'r her yn dod â myfyrwyr ynghyd o saith Ysgol a meysydd pwnc o fewn y Brifysgol i weithio gyda'i gilydd mewn timau dros gyfnod o 10 wythnos. Bu timau eleni yn ymateb i friffiau yn y byd go iawn a osodir gan fusnesau sy'n bartneriaid, sef y cwmni halen môr o Ynys Môn, Halen Môn, a'r gwneuthurwr offer dringo DMM yn Llanberis.
Ar ôl chwe wythnos o gyfarfod wyneb yn wyneb, roedd yn rhaid gwneud y penderfyniad anodd i drawsnewid y Fenter i fod yn gwbl rithwir yn wyneb yr argyfwng COVID-19 presennol.
Roedd yn rhaid i Fenter trwy Ddylunio fynd yn ddigidol. Er gwaethaf yr anawsterau, cafwyd perfformiad rhagorol gan y myfyrwyr, a dangoswyd fod Menter trwy Ddylunio yn gweithio'n dda fel proses, ac nid trwy gyfarfod wyneb yn wyneb yn unig. Wrth gwrs, bu'n rhaid i'r timau feddwl am ffordd o gyflwyno eu syniadau o bell.
Yn ystod y tair wythnos olaf bu'r timau yn cyfarfod â'r arbenigwyr academaidd mewn ystafelloedd rhithwir i weld sut i arddangos eu syniadau'n llwyddiannus yn ddigidol mewn 4 munud.
Yn y pen draw, Tîm Tulip wnaeth ennill y dydd gyda'r beirniaid yn rhoi'r cysyniad o Nestegg yn fuddugol, sef cynnyrch wy wedi ei halltu wedi'i wneud gydag amrywiaeth o halen nodweddiadol Halen Môn.
Meddai sylfaenydd Halen Môn, Alison Lea-Wilson, am y tîm buddugol: “Roedden nhw'n sefyll allan fel yr un a oedd wedi ymchwilio orau i'r farchnad ac wedi llunio cynllun a brand credadwy ar gyfer y cynnyrch arloesol newydd hwn (i'r DU). Rydym yn edrych ymlaen at siarad â'r tîm am gydweithio posib yn y dyfodol”.
Derbyniodd y tîm buddugol wobr o £2,500 ar gyfer y posibilrwydd o ehangu eu cysyniad, gyda'r timau yn yr ail a'r trydydd safle yn ennill £1,000 yr un.
Dangosodd y diweddglo digidol bod Menter trwy Ddylunio 2020 wedi golygu llawer o benderfyniad a gwaith caled. Mae'r gystadleuaeth yn rhoi cyfleoedd parhaus i fyfyrwyr ennill sgiliau cyflogadwy a pherthnasol i'r byd go iawn ar gyfer y dyfodol a rhoi syniadau i gwmnïau sydd â'r potensial i dyfu i fod yn gyfleoedd y gellir eu marchnata.
Roedd Pryderi Ap Rhisiart, Cyfarwyddwr M-Sparc yn aelod o'r panel beirniadu ar y noson ac meddai am y digwyddiad, “Roedd ansawdd y cyflwyniadau o garfan Menter trwy Ddylunio eleni yn rhagorol, hefyd dangoswyd sgiliau gan bob un o'r timau y bydd cyflogwyr eu hangen mewn diwydiant. Mae'r gallu i gydweithio, meddwl y tu allan i'r bocs, cyfathrebu'n hyderus fel gwnaeth y timau Menter trwy Ddylunio yn amhrisiadwy.”
Mae'r gystadleuaeth eleni wedi dangos y gall Menter trwy Ddylunio gydweithio, creu a ffynnu hyd yn oed yn ystod amgylchiadau anodd.
I ddysgu mwy am Fenter trwy Ddylunio, ewch i flog API yma: api.wales
Gwyliwch y fideo ar broses 10 wythnos Menter trwy Ddylunio.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mehefin 2020