Merch leol yn dathlu ei gradd Addysg
Yn ymfalchïo o weld beth mae gwaith caled yn gallu cyflawni, bydd darpar athrawes o Ynys Môn yn derbyn gradd 2:1 o Brifysgol Bangor yr wythnos hon.
Bydd cyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Llangefni, Swyn Llewelyn Jones, 21, o Bentre Berw, yn graddio’r wythnos hon gyda BA Addysg Gynradd (SAC).
Fel unig blentyn o deulu Cymraeg, wedi ei magu ar Ynys Môn. Roedd Swyn wrth ei bodd yn ymddiddori mewn cerddoriaeth a thynnu lluniau. Doedd dewis gyrfa ddim yn anodd iddi, gan ei bod yn dod o deulu ble mae llawer o aelodau wedi gweithio fel athrawon.
Meddai Swyn: “Roeddwn yn ymwybodol o oed ifanc mai athrawes mewn ysgol gynradd yr oeddwn eisiau bod. Penderfynais i astudio ym Mangor oherwydd traddodiad Cymreig y Brifysgol ac roedd y cwrs yn hwylus gan fy mod wedi gallu mynychu ysgolion lleol ar fy Mhrofiadau Dysgu.
“Roeddwn yn gweithio yn ystod y penwythnosau mewn siop leol yn y pentref dros y tair blynedd. Roedd yr arian yn gymorth, yn enwedig pan roeddwn yn byw mewn neuadd. Dysgais hefyd y pwysigrwydd o sut i gydbwyso fy mywyd personol a thraethodau a’r gwaith cynllunio tra roeddwn ar Ymarfer Dysgu.
“Roeddwn ar Brofiad Ysgol yn ystod yr ail dymor bob blwyddyn. Roeddwn yn cael y cyfle i gynllunio, asesu ac i addysgu dosbarth yn ystod y tymor. Roedd yn waith caled ond roedd yn deimlad gwych wrth weld y plant yn datblygu. Bum hefyd yn cynrychioli’r Ysgol Addysg wrth fod yn rhan o weithdai ar gyfer plant mewn mudiadau megis Eisteddfod yr Urdd a Noddfa Gaernarfon. Wedi cael y profiadau gwerthfawr yma, rwyf yn edrych ymlaen at ddechrau fy ngyrfa fel athrawes.
“Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol roeddwn yn aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) ac fe wnes ffrindiau arbennig drwy fyw yn neuadd JMJ. Rwy’n edrych ymlaen yn awr i gael swydd dysgu llawn amser.”
Dyddiad cyhoeddi: 19 Gorffennaf 2013