Merch o Borthmadog yn graddio
Ar ôl tair blynedd o waith caled, bydd myfyrwraig o Brifysgol Bangor yn derbyn gradd dosbarth cyntaf yr wythnos hon.
Bydd cyn-fyfyrwraig Ysgol Eifionydd a Choleg Meirion-Dwyfor, Caryl Burke, 23, o Borthmadog yn graddio gyda BA Astudiaethau’r Cyfryngau'r wythnos hon.
Yn falch iawn bod y tair blynedd diwethaf wedi bod o werth, dywedodd Caryl: “Yn wreiddiol, mi ddes i Fangor i astudio addysg gynradd ond wedi i mi orffen yr ail flwyddyn sylweddolais nad oeddwn yn mwynhau’r cwrs felly penderfynais newid cwrs a mynd yn ôl i’r flwyddyn gyntaf. Roedd o’n benderfyniad anodd ac yn gyfnod ansicr, ond gan edrych yn ôl, roedd yn bendant y penderfyniad cywir gan ei fod wedi arwain at gymaint o brofiadau diddorol.
“Yn ystod y misoedd diwethaf o astudio roeddwn yn cymryd rhan mewn cyfres gomedi ar gyfer S4C yng Nghaernarfon. Roedd y gwaith ei hun yn hwyl ac yn brofiad anhygoel, ond mi roedd hi’n anodd cael cydbwysedd rhwng gwaith y Brifysgol a ffilmio. Roedd hi’n her ceisio golygu ffilm ar gyfer fy nhraethawd hir rhwng golygfeydd, dysgu llinellau rhwng ysgrifennu traethodau a gorfod cyflwyno’r traethawd hir yn ystod awr ginio wedi gwisgo fel fy nghymeriad, sef merch ysgol 17 oed!
“Perswadiodd rhai o fy nhiwtoriaid i mi fynych clyweliadau yn y Brifysgol ar gyfer cyfres gomedi gan S4C o’r enw ‘FM’, ac mi gefais i ran ‘Betsan’. Gan mai cyfres gomedi ar gyfer plant oedd ‘FM’, cefais lawer o hwyl ac yn amlwg roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am y diwydiant. Rydw i hefyd wedi cychwyn gweithio rhywfaint yn Radio Cymru drwy’r Brifysgol; sydd eto’n gyfle da i ddysgu mwy am agwedd arall o’r cyfryngau a dod i adnabod unigolion o fewn y maes. Drwy’r modiwl ‘Theatr’ cefais gyfle i weithio hefo Cwmni’r Franwen. Bûm yn un o bedwar a oedd yn ysgrifennu darn ar gyfer y llwyfan dan arweiniad Aled Jones Williams. Yn hwyrach, cafodd y darn ei berfformio gan actorion proffesiynol.
“Roeddwn yn rheoli gorsaf radio’r Brifysgol, StormFM, yn ystod fy nhrydedd flwyddyn a drwy hynny cefais gyflwyno sioeau amrywiol, mynychu gwyliau a chyfweld Cerys Matthews.
“Uchafbwynt fy nhair blynedd yma yw derbyn canlyniad fy ngradd. Rwyf hefyd wedi mwynhau’r cyflwyniadau a dosbarthiadau meistr oedd yr adran yn ei chynnig, megis rhai hefo unigolion o’r diwydiant, alumni a Lord David Puttnam.
“Y rhwystr mwyaf efallai wynebais oedd cychwyn rhywbeth hollol newydd, dwy flynedd yn hwyrach na phawb arall. Ond unwaith dechreuodd y gwaith, roeddwn i’n mwynhau dysgu am hanes y cyfryngau a sgiliau newydd.
“Yn y dyfodol, rwy’n gobeithio cael gwaith yn y byd teledu yn cynhyrchu, golygu neu ysgrifennu. Wedi dweud hynny, rydw i wedi mwynhau’r modiwlau yn ymwneud â radio yn enwedig yr ochr gyflwyno, felly pwy a ŵyr...”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014