Merch o Lŷn yn graddio
Fe wnaeth profiad gwaith arwain at swydd i fyfyrwraig sy’n graddio ym Mhrifysgol Bangor yr wythnos hon.
Bydd cyn-ddisgybl o Ysgol Botwnnog, Cari Ann Roberts, 21, o Roshirwaun, Pwllheli yn graddio gyda BA mewn Cyfathrebu a Newyddiaduraeth ar ôl “tair blynedd anhygoel” ym Mangor.
Meddai Cari: “Ar ôl gorffen yn yr ysgol, fe astudiais BTEC mewn Cynhyrchu ar gyfer y Cyfryngau yng Ngholeg Menai. Penderfynais ddod i Fangor oherwydd bod y cwrs yn edrych yn ddifyr, a bod cyfle i astudio drwy’r Gymraeg. Hefyd, oherwydd ei bod yn weddol agos i nghartref, roedd modd i mi deithio i’r Brifysgol yn ddyddiol. Er fy mod yn byw gartref, fe wnes fwynhau bywyd myfyriwr hefyd drwy gymdeithasu gyda fy ffrindiau ar nosweithiau myfyrwyr bob nos Fercher.
“Yn ystod fy nghyfnod yn y Brifysgol roeddwn yn gweithio mewn caffi yn Llanbedrog ar benwythnosau. Roedd yn grêt cael arian ychwanegol i fyw arno!
“Yn ystod y cwrs cefais fynd ar brofiad gwaith gyda’r papur wythnosol Caernarfon and Denbigh Herald yng Nghaernarfon, a hefyd cefais brofiad gwaith cyflogedig gyda Thîm y We yn Adran Farchnata Prifysgol Bangor. Roedd y ddau brofiad gwaith yn gyfle gwerthfawr i mi.
“Uchafbwynt fy amser ym Mangor oedd cynhyrchu rhaglen ddogfen 20 munud ar Oriel Plas Glyn y Weddw, Llanbedrog, ar gyfer fy nhraethawd hir yn y drydedd flwyddyn. Mi wnes fwynhau cynhyrchu a golygu’r rhaglen ddogfen honno.
“Yn ddiweddar cefais swydd gyda Thîm y We ym Mhrifysgol Bangor, ac rwy’n ei mwynhau’n arw. Teitl fy swydd yw Swyddog Cynorthwyol Marchnata’r We.”
Gwyliwch fideo Cari ar BangorTV.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013