Merched Cymreig yn ennill gwobr am lwyddiannau mewn menter gymdeithasol
Mae Victoria Burrows, Sandy Ackers, Annie Donavan ac Alison Hill wedi ennill y wobr bwysig Network She Women in Education Award 2014. Maent ymysg y myfyrwyr cyntaf i gwblhau gradd Meistr mewn Menter Gymdeithasol gan ragori yn eu swyddi prysur yr un pryd.
Meddai Mark Richardson, Cyfarwyddwr Menter Gymdeithasol yn Ysgol Fusnes y Brifysgol:
"Ddwy flynedd yn ôl fe wnaeth Prifysgol Bangor ddechrau ei chwrs Meistr cyntaf mewn Menter Gymdeithasol, ac eisoes mae'n galluogi cenhedlaeth newydd o Entrepreneuriaid Cymdeithasol i weithredu. Mae ein carfan gyntaf o fyfyrwyr yn graddio nawr, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u hyder newydd i drawsnewid Cymru er gwell. Mae'r wobr yma i Victoria, Sandy, Annie ac Alison yn dyst i'w gwaith hynod galed a'u hymroddiad, ac rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith ryfeddol y byddant i gyd yn ei chael ar Gymru"
Mae Victoria Burrows wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn astudio'n ddyfal yn ogystal â gwneud swydd lawn-amser fel Dirprwy Reolwr DangerPoint, elusen yn Nhalacre, Sir y Fflint, sy'n ymwneud ag addysg diogelwch.
Roedd dim ond cael ei dewis i wneud y rhaglen gradd Meistr yn her gyda bron i 10 cais am bob lle, ac roedd Victoria'n hynod falch o fod yn rhan o'r rhaglen. Roedd yn gyfle i fuddsoddi mewn datblygiad personol a dysgu oddi wrth y Sector Menter Gymdeithasol ym Mhrydain ac Iwerddon.
Mae mentrau cymdeithasol yn mynd i'r afael â rhai o broblemau anoddaf Cymru, fel diweithdra, iechyd meddwl a chamddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Ac maent yn gwneud hyn gan weithredu fel busnes rheolaidd i roi atebion cynaliadwy, tymor hir.
Yr uchafbwynt i Victoria yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf fu dysgu oddi wrth fentrau cymdeithasol eraill a gweld eu rôl mewn cymdeithas a'r effaith y maent yn ei chael ar eu cymuned.
O ganlyniad i'r gwaith caled dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Victoria wedi penderfynu gwneud gwaith ar ei liwt ei hun gydag elusennau a mentrau cymdeithasol eraill i ddatblygu eu strategaethau cyllido a busnes.
Meddai:
"Mae'r cwrs wedi rhoi amser i mi i edrych ar fy nyfodol a'r hyder i gymryd camau i gyflawni fy amcanion.
Fy nghyngor i fentrau cymdeithasol eraill yw sicrhau bod gennych bobl entrepreneuraidd eu natur ar eich bwrdd cyfarwyddwyr neu ymddiriedolwyr. Peidiwch â bod ofn gweithredu'n fasnachol neu wneud elw - nid sefydliadau nad ydynt i fod i wneud elw yw mentrau cymdeithasol; dylent gystadlu â'r sector breifat a medru codi cyfraddau masnachol am eu gwasanaethau."
Cyllidwyd yr MSc gan Interreg a'i gyflwyno mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Bangor a DCU Ryan Academy yn Nulyn. Mae'n rhan o broject ehangach sy'n darparu hyfforddiant ar lefel uchel i fentrau cymdeithasol mewn ardaloedd penodol yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Awst 2014