Merched gyda chanser yr arennau a'r bledren ddim yn cael diagnosis prydlon
Nid yw tua 700 o ferched yn Lloegr gyda symptomau canser yr arennau neu'r bledren yn cael diagnosis a thriniaeth brydlon bob blwyddyn. Dyna ddatgelir mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ar-lein BMJ Open. Cyd-awdur y gwaith yw'r Athro Richard Neal o Ganolfan Gogledd Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol Bangor.
Mae'r ymchwil yn awgrymu mai'r rheswm am hyn efallai yw bod meddygon teulu'n tueddu i briodoli symptomau cychwynnol merched - yn hytrach na rhai dynion - i achosion llai difrifol, megis heintiadau bacteriol. Golyga hyn bod rhai merched yn gorfod mynd i weld eu meddyg teulu sawl gwaith cyn cael eu cyfeirio at arbenigwr.
Ar hyn o bryd, mae ystadegau yn Lloegr yn dangos bod llai o ferched na dynion yn byw am bum mlynedd ar ôl diagnosis canser yr arennau a'r bledren.
Edrychodd yr ymchwilwyr ar niferoedd y cleifion a gafodd ddiagnosis canser yr arennau a'r bledren yn Lloegr rhwng 2009 a 2010. Fe wnaethant ddefnyddio data o'r National Audit of Cancer Diagnosis in Primary Care. Roedd y rhain yn cynnwys 1170 o feddygfeydd cyffredinol cynrychioliadol - yn cyfateb i tua 14% o'r cyfanswm cenedlaethol.
Fe wnaethant edrych ar ddwy elfen o ran mesur pa mor gyflym y gwnaed diagnosis: nifer y troeon y daeth y claf i weld meddyg teulu cyn iddo/iddi gael ei gyfeirio/chyfeirio; a faint o amser oedd rhwng yr ymweliad cyntaf â'r meddyg teulu gyda symptomau a'r cyfeirio at arbenigwr. Dangosodd eu dadansoddiad bod merched ddwywaith mor debygol â dynion o fod wedi ymweld â'u meddyg teulu dair gwaith neu fwy cyn iddynt gael eu cyfeirio at arbenigwr.
Roedd gan ddwy ran o dair o holl gleifion gyda chanser y bledren ac un o bob pedwar o rai gyda chanser yr arennau waed yn eu dŵr, sy'n un o'r prif bethau sy'n dangos bod angen archwiliadau pellach. Ond dangosodd y dadansoddiad na allai presenoldeb neu absenoldeb y symptom hwn gyfrif am y gwahaniaeth gender o ran amseroedd cyfeirio.
Hyd yn oed pan ddeuai cleifion i weld eu meddyg teulu gyda gwaed yn eu dŵr roedd merched gyda chanser y bledren dair gwaith yn fwy tebygol o gael tri neu fwy o ymweliadau â'u meddyg teulu cyn cael eu cyfeirio, o'u cymharu â dynion gyda'r un symptom. Yn ogystal, roedd merched gyda chanser yr arennau bron ddwywaith mor debygol â dynion i gael tri neu fwy o ymweliadau â'u meddyg teulu, pan oedd ganddynt waed yn eu dŵr.
Meddai'r Athro Neal: "Gall pwysleisio'r angen i ddilyn canllawiau ac ystyried gwaed yn y dŵr fel symptom amheus annog meddygon teulu i gyfeirio merched yn gynt, ond ni fydd o gymorth yn yr achosion hynny lle na cheir y symptom yma. Rydym angen dull newydd o weithredu i fynd i'r afael â'r mater yma.
"Mae ein darganfyddiadau'n dangos bod cryn botensial i wella prydlondeb diagnosio canser yr arennau a'r bledren mewn merched a bod angen i ddulliau gweithredu a chanllawiau i helpu meddygon teulu i osgoi gwneud diagnosis cychwynnol anghywir yn achos merched gyda'r mathau hyn o ganser gael eu datblygu a'u cloriannu yn ddi-oed."
Gan y darganfyddir fod tua 3000 o ferched yn dioddef o bob un o'r ddau fath hyn o ganser yn Lloegr bob blwyddyn, mae'r awduron yn cyfrifo y bydd tua 700 yn wynebu oedi o ran cael diagnosis.
Dyddiad cyhoeddi: 25 Mehefin 2013