Merched yn cael cyfle i ddarganfod gwyddoniaeth
Ond dyna sut fu 25 o ferched ifanc yn treulio eu boreau Sadwrn yn ddiweddar yn darganfod mwy am wyddoniaeth, peirianneg a thechnoleg, a hynny mewn awyrgylch llawn hwyl a gwybodaeth.
Daeth y disgyblion Blwyddyn 9 o ddeg ysgol yng Ngwynedd, Conwy ac Ynys Môn i’r Brifysgol ar gyfer gwahanol weithdai dros gyfnod o bum wythnos, mewn cynllun ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a Gyrfa Cymru.
“Bu'r merched yn cymryd rhan mewn nifer o wahanol weithgareddau a phrofiadau i ddangos iddynt yr ystod o gyrsiau a gyrfaoedd sydd i’w cael mewn gwyddoniaeth," meddai Manon Owain, Swyddog Mynediad ym Mhrifysgol Bangor.