Modernists & Mavericks’: darlith gyhoeddus gan feirniad celf blaenllaw
Bydd y beirniad celf blaenllaw, Martin Gayford, yn trafod Bacon, Freud, Hockney ac arlunwyr Llundain ym Mhrifysgol Bangor ddydd Mercher, 12 Mehefin am 6.30pm, yn Narlithfa Eric Sunderland ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau. Mae mynediad am ddim, ac mae croeso i bawb ddod i'r ddarlith, 'Modernists and Mavericks: Bacon, Freud, Hockney and the London Painters'.
Meddai Martin Gayford:
"Yn y ddarlith hon, byddaf yn edrych ar sut y bu i arlunwyr Llundain ar ôl yr ail ryfel byd ffynnu yn awyrgylch bohemaidd Soho yr 1940au a'r 50au, a Llundain afieithus yr 1960au, ac archwilio posibiliadau paent. Mae datblygiad arlunio yn Llundain yn ystod y cyfnod hwn yn stori am gyfeillgarwch cysylltiedig, rhannu profiadau, cystadlu yn erbyn ei gilydd, a materion artistig ymysg nifer o arlunwyr clodwiw, yn cynnwys Francis Bacon, Lucian Freud, Frank Auerbach, David Hockney, ac eraill. Gan dynnu ar nifer o gyfweliadau uniongyrchol dros ddeng mlynedd ar hugain gyda thystion a chyfranogwyr pwysig, byddaf yn ceisio datod y llinyn sy'n cysylltu bywydau'r unigolion hyn. Roedd pawb yn credu'n angerddol y gallai ffurf hynafol wneud pethau ffres a rhyfeddol hyd yn oed yn oes y cyfryngau newydd.”
Martin Gayford yw beirniad celf The Spectator, ac mae'n awdur nodedig. Mae wedi astudio prif arlunwyr Prydain yn y cyfnod ers yr ail ryfel byd yn fanwl, a daeth i adnabod llawer ohonynt yn bersonol. Cafodd yr anrhydedd unigryw o gael paentio darlun ohono gan Lucian Freud (sef y portread adnabyddus Man with a Blue Scarf) a hefyd gan David Hockney.
Mae wedi cyhoeddi amryw o lyfrau o bwys, gan gynnwys Constable in Love a The Yellow House (ynglŷn â Van Gogh a Gauguin yn Arles), a chyhoeddwyd ei lyfr diweddaraf, Modernists and Mavericks, yn 2018. Mae'n gydawdur A History of Pictures gyda David Hockney.
Cyflwynir darlith T. Rowland Hughes ar y cyd â Chronfa Gelf Gogledd Orllewin Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Mai 2019