Modiwl Newydd Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethau yn Llwyddiant
Bu myfyrwyr blwyddyn olaf yn treulio deuddydd llwyddiannus yng Nghlwb Pêl-droed Burnley yn ddiweddar, fel rhan o fodiwl newydd Ysgol Busnes Bangor, Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethau, ag arweiniwyd gan Neil Doncaster, Prif Weithredwr yr Uwch Gynghrair Albanaidd, a’r Athro John Goddard, Dirprwy Pennaeth Ysgol Busnes Bangor. Cafodd y 42 myfyriwr cyfrannol y cyfle i weld sut gallent weithredu'r theori a dysgwyd ar y modiwl mewn bywyd bob dydd. Ar ddiwrnod gyntaf yr ymweliad cafwyd sgyrsiau gan aelodau staff allweddol o’r clwb, ac roedd cyfle i’r myfyrwyr holi cwestiynau ynglŷn â rôl Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethau mewn cyd-destun sefydliadau mawr. Ar y diwrnod canlynol bu’r myfyrwyr yn rhoi cyflwyniadau mewn grwpiau fel y darn cyntaf o waith asesedig ar y modiwl. Yn naturiol, fe orffennwyd yr ymweliad trwy fynychu gêm pêl-droed Burnley!
“Mae’r modiwl hon wedi bod yn uchafbwynt o fy ngradd Busnes. Rwy’n credu bod yr ymweliad wedi rhoi mewnwelediad pwysig i mewn i weithrediadau mewnol busnes ac wedi arddangos sut yn union mae’r theori yr ydym wedi dysgu yn berthnasol i sefydliadau. Trwy ysgrifennu ffug datganiad i’r wasg, dysgais sgil newydd ac ehangodd fy awydd i ymdreiddio i’r byd busnes. Yn olaf, mae’r modiwl yn cael ei dysgu’n dda, ac mae gallu Neil Doncaster i roi esiamplau go iawn yn cymorth ystyrlon i ni fel myfyrwyr deall pwysigrwydd byth-cynyddol cyfrifoldeb cymdeithasol mewn corfforaethau.”
Christian Russell-Pollock
Myfyriwr Marchnata, 3ydd Flwyddyn
“Roedd yr ymweliad i Glwb Pêl-droed Burnley yn wych - diddorol ac addysgol. Roedd y darlithoedd yn llawn cymhelliant a chafom ni’r cyfle i wylio gêm pêl-droed cyffroes! Yn bersonol, teimlais fod yr ymweliad wedi ehangu ar elfen darlithoedd y modiwl ac wedi cynnig profiad dysgu newydd yr oedd yn oleuol yn ogystal ag hwyl. Er fy mod i ddim yn frwdfrydig am bêl-droed, efallai bydd rhaid i mi newid fy meddwl ar ôl gwylio’r gêm. Mae’r ymweliad gwirioneddol werth mynychu.”
Yao Yao
Myfyriwr Bancio a Chyllid, 3ydd Blwyddyn
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ebrill 2011