Mr Gwilym Owen yn cael ei benodi'r Is Siryf Gwynedd
Mae Mr Gwilym Owen, Darlithydd yn Y Gyfraith, wedi cael ei benodi'n Is Siryf nesaf Gwynedd - swydd lle bydd yn gweithredu fel cyswllt allweddol rhwng Uchel Siryf newydd y sir a chlercod y Barnwyr.
Mae swyddi’r Siryf ac Is Siryf wedi bodoli am dros 1,000 o flynyddoedd yn Lloegr ac ers bron i 1,000 o flynyddoedd yng Nghymru. Yn draddodiadol roedd iddynt swyddogaeth o bwys yn y system gyfreithiol yng Nghymru, ond swyddi seremonïol i raddau helaeth ydynt erbyn hyn.
Rhoddir swydd Is Siryf fel rheol i gyfreithiwr profiadol sydd wedi gweithredu am nifer o flynyddoedd mewn sir arbennig. Cyn iddo ddod i'r byd academaidd bu Mr Owen yn gweithredu mewn cwmni preifat am ddeg mlynedd ar hugain, ac mae'r penodiad hwn yn tystio i'r parch uchel sydd tuag ato ymysg aelodau'r proffesiwn yn lleol.
Bydd yn gwasanaethu dan yr Uchel Siryf newydd, yr Athro Sian Hope OBE, Cyfarwyddwr Cynlluniau Strategol ac Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor, a threfnu a mynychu ciniawau i anrhydeddu unrhyw Farnwyr Uchel Lys fydd yn ymweld â'r sir.
Cafodd Yr Athro Hope a Mr Owen eu sefydlu'n ffurfiol yn eu swyddi mewn seremoni yn Pontio ddydd Sadwrn, 1 Ebrill. Roedd nifer o bobl amlwg yn y seremoni, yn cynnwys Dr Peter Harlech Jones, yr Uchel Siryf blaenorol; Mr Edmund Seymour Bailey, Arglwydd Raglaw Gwynedd; a'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas, Canghellor Prifysgol Bangor.
Pan holwyd ef am ei benodiad, dywedodd Mr Owen: "Rwy'n ei theimlo'n anrhydedd mawr fod Yr Athro Hope wedi gofyn i mi weithredu fel Is Siryf Gwynedd. Bydd hwn yn gyfle gwych i Ysgol y Gyfraith feithrin cysylltiadau agosach fyth â'r proffesiwn cyfreithiol a'r farnwriaeth er budd myfyrwyr, drwy greu cyfleoedd pellach iddynt gael profiad gwaith a dilyn barnwyr uwch wrth eu gwaith."
Un o ddiddordebau academaidd Mr Owen yw hanes y gyfraith, yn arbennig mewn cysylltiad â Chymru. Meddai yn y cyd-destun hwn: "Mae siryddiaeth Gwynedd yn cynnwys hen siroedd Môn, Caernarfon a Meirionnydd. Un peth nad yw'n wybyddus yn gyffredinol yw y caniatawyd i arferion brodorol Cymreig barhau yn y tair sir hyn yn dilyn pasio'r Deddfau Uno Tuduraidd yn 1536.
"Mae fy ymchwil i batrymau anheddu yng Nghymru hefyd wedi datgelu y gwelir tuedd i efelychu rhai o'r cyfreithiau brodorol Cymreig yn ymwneud ag etifeddiaeth gyfrannol mewn rhai ewyllysiau a wnaed gan dirfeddianwyr yn y siryddiaeth hon yn dilyn pasio'r Deddfau Uno yn 1536-43."
Caiff darganfyddiadau Mr Owen yn ymwneud â'r patrymau anheddu hyn eu dadansoddi mewn erthygl sydd i'w chyhoeddi yn yr Irish Jurist yn Nhachwedd 2017. Mae hefyd yn agosáu at orffen cyfrol i Gymdeithas Hanes Cyfraith Cymru yn ymdrin â'r ymgyfreithio a ddigwyddodd o fewn teulu Griffith o'r Penrhyn yn ymwneud ag entael y Penrhyn yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg. Rhagwelir y cyhoeddir y llyfr yn hydref 2017.
Dyddiad cyhoeddi: 9 Mai 2017