Mr Gwilym Owen yn cael ei enwebu am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn'
Mae aelod staff arall o Ysgol y Gyfraith Bangor wedi cael ei enwebu am wobr addysgu bwysig.
Mae Gwilym Owen, Darlithydd yn y Gyfraith, wedi cael ei roi ar y rhestr fer am wobr 'Darlithydd y Gyfraith y Flwyddyn' yng Ngwobrau Hyfforddi a Recriwtio blynyddol LawCareers.Net. Datgelir yr enillydd mewn seremoni yn Llundain ddydd Iau, 22 Mai.
Mae enwebiad Gwilym yn adlewyrchu'r gofal bugeiliol o ansawdd uchel y mae Ysgol y Gyfraith Bangor yn enwog am ei ddarparu i'w myfyrwyr. Mae Gwilym ei hun wedi chwarae rhan allweddol yn hyrwyddo cyfleoedd gyrfa i fyfyrwyr trwy gydlynu cynllun interniaeth a threfnu ffair yrfaoedd gyntaf yr Ysgol. Yno cafodd myfyrwyr presennol gyfle hynod werthfawr i drafod gyrfaoedd gyda bargyfreithwyr a chyfreithwyr. Mae hefyd wedi llunio gweithdy i'r modiwl Cyfraith Tir, lle mae myfyrwyr, academyddion ac ymarferwyr yn trafod cysyniadau cyfreithiol yn ymwneud â gweithredoedd gwirioneddol.
"Dwi'n hynod ddiolchgar i'r myfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith am fy enwebu am y wobr yma," meddai Gwilym, a ymunodd â Phrifysgol Bangor yn 2011, ar ôl gweithio fel cyfreithiwr mewn practis preifat am ddeng mlynedd ar hugain. "Dwi'n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda'u gyrfaoedd yn y dyfodol."
Mae enwebiad Gwilym yn dilyn llwyddiant diweddar Sarah Nason yn cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth 'Athro'r Gyfraith y Flwyddyn' Gwasg Prifysgol Rhydychen.
Cafodd y Brifysgol ei rhoi ar y rhestr fer hefyd yn ddiweddar fel un o 10 sefydliad uchaf gwledydd Prydain am 'gwrs a darlithwyr' yn y Whatuni Student Choice Awards 2014.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Mai 2014