Mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig yn gweithio gyda busnesau a mudiadau lleol
Mae mwy na 300 o fyfyrwyr ôl-raddedig wedi cwblhau rhaglen gradd Meistr lwyddiannus, sydd yn cynnwys elfen wedi ei lleoli yn y gweithle, ac yn cwmpasu’r holl bynciau a ddysgir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r holl raddau ATM: Mynediad i Radd Meistr hefyd yn gysylltiedig â sectorau blaenoriaeth Llywodraeth Cymru.
Trwy’r rhaglen ATM lwyddiannus, bu modd i’r myfyrwyr ddatblygu eu dealltwriaeth a’u gwybodaeth tra oeddent ar y cwrs hyfforddedig, wrth roi cyfle iddynt feithrin y sgiliau lefel uchel twy weithio ar broject go-iawn mewn lleoliad gwaith gyda chwmni lleol, er mwyn datrys her benodol i’r cwmni.
Dros bum mlynedd y rhaglen, llwyddodd Prifysgol Bangor i fynd heibio’r targed o 250 o fyfyrwyr, gan recriwtio 336 i’r rhaglen a gyllidwyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Arweiniodd nifer o’r lleoliadau hyn at waith gyda’r cwmni i’r myfyriwr neu’r fyfyrwraig ar ôl graddio.
Mae Rondo Media Cyf wedi cyflogi myfyriwr ATM, Rhys Gwynfor.
Canmolodd Bedwyr Rees, o Rondo Media Cyf, y rhaglen gan ddweud:
“Rwyf wedi goruchwylio tri chyfle ATM rhwng Rondo Media a Phrifysgol Bangor ac mae pob un wedi bod o fudd i’r busnes ac i’r myfyrwyr a oedd yn cymryd rhan. Mae dod â’r busnes a’r byd academaidd ynghyd yn rhywbeth rwy’n credu’n gryf ynddo gan ei fod yn codi lefel sgiliau pawb ac yn hwyluso’r broses bontio rhwng astudio a gyrfa.”
Meddai Dafydd Roberts, ar ran Sain (Recordiau) Cyf: “Mae Sain wrthi’n cudweithio gyda’r Ysgol Gyfrifiadureg ym Mhrifysgol Bangor i greu Ap a fydd yn cynnig gwasanaeth ffrydio ar gyfer cerddoriaeth Gymraeg a gynhyrchir gan yr holl labelau cerdd yng Nghymru. Mi oedd digideiddio ein harchifau feinyl yn rhan bwysig iawn o baratoi ar gyfer y prosiect hwn, ac fe groesawon ni ddau fyfyriwr o’r rhaglen ATM i helpu gyda hyn.”
“Mae partneriaethau yn gweithio ddwy-ffordd, ac rydyn ni wedi darganfod po fwyaf y gall cwmni ei roi i’r graddedigion, y mwyaf rydyn ni wedi elwa yn y tymor hir, un ai drwy recriwtio gweithwyr newydd ymroddedig neu , neu gyfranwyr i ragor o brosiectau tymor hir . Mae pawb yn elwa o rannu gwybodaeth, ymarfer da a phrofiad.”
Mae’r Athro James Intriligator, sy’n arbenigwr ar seicoleg y defnyddiwr wedi arolygu naw myfyriwr ATM yn ystod y cyfnod. Meddai:
“Mae’r rhaglen ATM yn galluogi ein myfyrwyr unigryw, cryf ac annibynnol ni i ymgysylltu â chwmnïau lleol er mwyn creu cyfleoedd cyffrous ar y cyd. Mae’r ATM yn galluogi busnesau i helpu i greu cynhyrchion, prosesau a gwasanaethau newydd wedi’u harwain gan arloesedd.”
Roedd gan Rhiannon Willmot, myfyrwraig ATM mewn Seicoleg hyn i’w ddweud:
“Nid yn unig mae ATM yn eich galluogi chi i ymgymryd â gradd meistr, ond mae hefyd yn eich galluogi chi i gael profiad amhrisiadwy yn y byd go iawn. Rwyf wedi gallu dysgu gymaint mwy am gymhlethdodau perthnasau gweithredol o fewn busnes dynamig yn ystod y flwyddyn. Mae’n wych gallu ymgymryd ag astudiaeth sydd o fudd gwirioneddol i gwmni go iawn. Heb ATM ni fyddwn wedi gallu cwblhau fy ngradd meistr, ond hefyd ni fyddwn wedi dysgu’r holl bethau sy’n fy ngwneud i’n falch o alw fy hun yn fyfyriwr ATM.”
Dathlwyd llwyddiannau’r ATM mewn digwyddiad cloi yn ddiweddar. Er bod y rhaglen wedi dod i ben, mae Prifysgol Bangor yn cynnig amrediad o ffyrdd i gwmnïau, sefydliadau a busnesau cael mynediad at a chefnogaeth gan y Brifysgol. Mae myfyrwyr y Brifysgol hefyd yn cael eu hannog i ennill profiad ymarferol drwy amrediad o raglenni a chyfleon.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mehefin 2015