Mwy o gydnabyddiaeth yn Ewrop i Ysgol Seicoleg Bangor
Yn Nhabl Rhagoriaeth Ewropeaidd 2010 y Ganolfan Datblygu Addysg Uwch gosodwyd 59 o brifysgolion yn Ewrop yn y “Grŵp Rhagoriaeth” ym maes Seicoleg. O’r rhain gosodwyd Ysgol Seicoleg Bangor yn y trydydd safle’n gyffredinol (ail yn y Deyrnas Unedig) ar sail nifer y sêr a enillodd yn yr arolwg sefydliadol a hefyd fe’i gosodwyd yn y deg uchaf ar sail mynegai meini prawf rhagddewis y Ganolfan. Dyfernir sêr i adrannau sy’n gwneud yn arbennig o dda mewn rhai meysydd ac mae’r ffaith bod Bangor wedi sgorio mor uchel yn arwydd eglur o ansawdd cyffredinol yr Ysgol a’r parch rhyngwladol sydd i’w staff a’i myfyrwyr.
Sefydliad annibynnol yw’r Ganolfan Datblygu Addysg Uwch sydd yn ymrwymedig i ddiwygio addysg uwch. Bwriad Tabl Rhagoriaeth y Ganolfan Addysg Uwch yw helpu i roi gwybodaeth am ansawdd addysgu ac ymchwil ôl-radd unrhyw adran i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio ar lefel ôl-radd , yn ogystal ag i staff academaidd ac anacademaidd sydd â diddordeb mewn safle adran unigol yn Ewrop. Mae’r drefn sgorio’n cynnwys gwerthusiadau gan fyfyrwyr a gwybodaeth am raglenni astudio ac offer addysgu, cyfrifiadurol a labordy, perfformiad ymchwil ac agweddau rhyngwladol.
"Rydw i wrth fy modd bod Ysgol Seicoleg Bangor wedi gwneud cystal yn y tabl hwn o adrannau Seicoleg elit. Mae’r ffaith ein bod wedi ennill 6 seren yn yr arolwg sefydliadol, sy’n ein gosod yn y trydydd safle’n gyffredinol, yn arwydd rhagorol o ansawdd yr amgylchedd ymchwil y gallwn ei gynnig i fyfyrwyr ôl-radd ac i staff. Os cymerwn i ystyriaeth hefyd yr amgylchedd naturiol anhygoel sydd yng nghyffiniau’r brifysgol, credaf nad oes yr un adran well yn y Deyrnas Unedig ar gyfer gweithio neu astudio " meddai’r Athro Oliver Turnbull, Pennaeth yr Ysgol.
Mae Ysgol Seicoleg Bangor yn un o’r ysgolion mwyaf yn y Deyrnas Unedig hefyd o ran nifer ei myfyrwyr ac yn cynnig i fyfyrwyr cartref a rhyngwladol fel ei gilydd gyfuniad o faint ac ansawdd, mewn amgylchedd naturiol gwych ac mewn dinas fywiog lle mae myfyrwyr yn cyfrif. Nid yw’r elfennau hyn ar gael mewn lleoedd eraill. Ewch i wefan yr Ysgol Seicoleg i gael mwy o fanylion am raddau Seicoleg ac allbwn ymchwil yr ysgol."
Dyddiad cyhoeddi: 24 Tachwedd 2010