Mwynhau llwyddiant yn yr Eisteddfod Ryng-golegol
Wedi cystadlu brwd a hynod lwyddiannus, daeth cystadleuwyr selog ymysg myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Bangor yn ail yn yr Eisteddfod Ryng-golegol yn ddiweddar. Y tîm cartref, sef Prifysgol Caerdydd, a enillodd, o ychydig.
Aeth 100 o fyfyrwyr Cymraeg y Brifysgol i Gaerdydd i gystadlu yn yr Eisteddfod dros benwythnos 18-20 Chwefror a phrofodd nifer ohonynt lwyddiant yn eu cystadlaethau
Enillodd Tîm Bangor y twrnamaint Pêl Droed yng Ngala Chwaraeon ar y dydd Gwener. Daeth nifer o grwpiau ac unigolion yn gyntaf mewn sawl cystadleuaeth lwyfan.
Roedd yn Eisteddfod lwyddiannus tu hwnt i Lois Eifion, sy’n dod o Benisa’r Waun ac yn astudio Cerddoriaeth yn ei thrydedd flwyddyn. Enillodd Lois y Rhuban Glas offerynnol a’r Rhuban Glas lleisiol. Enillodd y Rhuban Glas offerynnol am ei pherfformiad wrth ennill yr unawd offerynnol, a hi hefyd ddaeth yn gyntaf yn yr Unawd Sioe Gerdd ac yn gyntaf yn yr unawd merched, gan ennill y Rhuban Glas lleisiol oedd yn mynd i rywun o blith unawdwyr y merched neu’r bechgyn.
Enillodd Lois a Daniel Sajko yr ensemble offerynnol am wneud deuawd piano, a daeth Daniel Sajko yn gyntaf yn yr unawd Cerdd Dant ac yn 3ydd yn yr unawd bechgyn. (Diolch iddynt hefyd am eu gwaith diwyd wrth arwain a chyfeilio i aelwyd John Morris Jones, fydd yn canu yn y cyngerdd Gŵyl Ddewi yn Wythnos y Ddraig).
Ar ben hynny, yn y Cystadlaethau Gwaith Cartref, enillodd Lois Eifion Dlws y Cerddor, a Dewi Meirion (o Llanrug sy’n astudio Newyddiaduraeth a Chyfathrebu) a enillodd y Fedal Ddrama.
Roedd yr ensemble lleisiol a’r Côr Sioe Gerdd hefyd yn fuddugol. Daeth Bangor yn ail yn y cystadlaethau clocsio unigol (Lawrence Huxham, o Wlad Belg, sy’n astudio Cerdd a Chymraeg, ac wedi dysgu Cymraeg) y grŵp dawnsio gwerin a’r ddeuawd gydag Iwan a Catrin yn canu (Iwan Williams a Catrin Roberts a gyrhaeddodd y llwyfan yn yr Ŵyl Gerdd Dant hefyd).
“Roedd yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yn un hynod o lwyddiannus i fyfyrwyr Bangor. Cafwyd llwyddiannau lu ar y llwyfan a gwelwyd llwyddiant hefyd yn y gwaith cartref ac ar y caeau chwarae. Ond yn bwysicaf oll, cafodd tri llond bws o fyfyrwyr Bangor benwythnos i’w gofio wrth fwynhau cymdeithasu a chystadlu gyda myfyrwyr Cymraeg prifysgolion eraill Cymru,” meddai Mair Rowlands, Llywydd UMCB.
“Bangor hefyd fydd yn croesawu’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf. Bydd y gwaith paratoi yn cychwyn yn fuan iawn. Gobeithio y byddwn yn ail-fyw’r un llwyddiant a welwyd yn yr Eisteddfod Ryng-golegol ddiwethaf ym Mangor yn 2007, lle cyrhaeddodd Bangor y brig,” ychwanegodd hi.
Dyddiad cyhoeddi: 23 Chwefror 2011