Myfyriwr a enillodd lu o wobrau yn graddio
Mae myfyriwr lleol wedi llwyddo i ennill cyfanswm trawiadol o chwe gwobr yn ystod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor dros y pedair blynedd diwethaf.
Graddiodd cyn-ddisgybl o Ysgol David Hughes, Daniel Congrave, 22, o Fiwmares, Ynys Môn yr wythnos hon gyda gradd Meistr mewn Cemeg (MChem).
Dyfarnwyd gwobr Dr John Robert Jones i Daniel. Rhoddir y wobr hon i dri o'r graddedigion gorau ar draws pob pwnc yn y Brifysgol, a derbyniodd wobr o £800. Enillodd hefyd y wobr AMRI MChem o £250, sy’n wobr flynyddol i’r myfyriwr blwyddyn olaf gorau ar y cwrs MChem.
Yn ôl yn 2010, enillodd Daniel Ysgoloriaeth Rhagoriaeth Prifysgol Bangor o £3,500; gwobr flynyddol a gyflwynir i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf a gafodd y graddau Lefel A gorau. Dilynwyd hyn yn fuan gyda Gwobr Cyflawniad yr Ysgol Gemeg o £500 yn 2011. Cyflwynir y wobr yma i'r myfyriwr blwyddyn gyntaf sydd wedi cael y canlyniadau arholiad gorau yn ystod y semester cyntaf. Ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf, fe enillodd Wobr Canmlwyddiant Arthur Morris o £50, a ddyfernir i'r myfyriwr cemeg gorau yn y flwyddyn gyntaf. Ar ddiwedd ei ail flwyddyn, enillodd Daniel Wobr Evan Roberts o £100, gwobr flynyddol a gyflwynir i'r myfyriwr cemeg gorau yn yr ail flwyddyn.
Meddai Daniel, a oedd yn teimlo cryn ryddhad wrth raddio: "Mae wedi bod yn bedair blynedd hir gan fy mod wedi cymryd rhan mewn interniaeth haf yn yr Ysgol Gemeg ar ddiwedd fy ail a thrydedd flwyddyn. Drwy gyfuno hyn â gofynion adolygu dros y Pasg a'r Nadolig, nid wyf wedi cael cyfle i ymlacio yn iawn ers tro. Mae'n braf cael egwyl cyn i mi ddechrau fy PhD ym mis Hydref, er y byddaf yn gobeithio cael cyfle i wneud rhywfaint o ymchwil wirfoddol yn yr Ysgol ym mis Awst.
"Tra yn yr ysgol roedd gennyf ddiddordeb mewn gwneud pethau, ac roeddwn yn sicr y byddwn eisiau bod yn beiriannydd wedi i mi fynd yn hŷn. Fodd bynnag, roeddwn yn gwneud yn dda mewn mathemateg a'r gwyddorau, felly penderfynais astudio cemeg yn y brifysgol. Dwi wrth fy modd efo’r pwnc am ei fod yn ymwneud â pheirianneg , ond ar lefel foleciwlaidd.
"Dewisais Bangor oherwydd bod maint y dosbarthiadau yn eithaf bach o’i chymharu â phrifysgolion eraill. Fe wnaeth y dosbarthiadau bach fy ngalluogi i ddatblygu perthynas fwy personol gyda'r staff a rhoi mwy o gyfle i ofyn cwestiynau ac ymestyn fy ngwybodaeth.
"Roeddwn yn gweithio dros yr haf yn ystod fy ail a'r drydedd flwyddyn yn y Brifysgol i gael profiad ymchwil. Credaf fod hyn yn amhrisiadwy, ac roedd yn braf iawn cael fy nhalu am rywbeth rwyf yn ei fwynhau. Ar ddechrau fy mhedwaredd flwyddyn roeddwn hefyd yn helpu myfyrwyr o’r drydedd flwyddyn yn y labordy yn ystod fy amser rhydd.
"Yn ystod haf yr ail flwyddyn, enillais ysgoloriaeth haf cronfa ymddiriedolaeth cemeg dadansoddol. Fe wnes i wneud rhywfaint o ymchwil cemeg amgylcheddol diddorol i geisio datblygu synhwyrydd electrogemegol i fesur crynodiad ffosffad mewn samplau dŵr.
"Dechreuais fy mhroject ymchwil bedwaredd flwyddyn yr haf diwethaf, a oedd yn cynnwys y synthesis o ddeunyddiau organig i’w defnyddio mewn electroneg; er enghraifft, transistorau, arddangosfeydd, goleuadau fel OLEDs a ffotofoltäig organig neu baneli solar. Roeddwn wrth fy modd gyda’r ymchwil yma a byddaf yn parhau ar hyd llwybr tebyg yn fy ngwaith PhD ym Mhrifysgol Durham ym mis Hydref.
"Uchafbwynt fy nghwrs oedd y flwyddyn neu well ddiwethaf pan gefais gyfle i wneud ymchwil i electroneg organig. Hwn yn sicr yw’r maes cemeg sydd fwyaf wrth fy modd ac
rwyf yn edrych ymlaen at y cyfle i barhau fy ngwaith o fewn y ddisgyblaeth yn ystod fy PhD.
"Rwy'n teimlo na fyddwn wedi gallu cyfrannu at yr ymchwil na llwyddo i'r fath raddau heb gefnogaeth y staff academaidd drwy gydol fy nghwrs. Roeddent yn gefnogol iawn ac yn awyddus i drosglwyddo eu gwybodaeth."
Yn dilyn ei enwebu gan oruchwyliwr ei broject pedwaredd flwyddyn, mae Daniel wedi cael cynnig mynd i Gynhadledd y Byd Gwyddoniaeth - Israel (WSCI) yn Jerwsalem ddiwedd mis Awst. Mae'r gystadleuaeth am lefydd yn uchel iawn ac mae’n gyfle i wyddonwyr ifanc gael darlithoedd gan dros 20 sydd wedi ennill Gwobr Heddwch Nobel. Dim ond 13 myfyriwr o wledydd Prydain i gyd fydd yn mynd yno, yn cynrychioli’r holl ddisgyblaethau gwyddonol.
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014