Myfyriwr a enillodd wobr BAFTA Cymru yn cynnal dosbarth meistr
Cynhaliodd myfyriwr ôl-radd Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Bangor, a enillodd wobr BAFTA Cymru am y ffilm fer orau yn 2013, ei ddosbarth meistr ei hun i fyfyrwyr a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn ddiweddar.
Mae Osian Williams, 22 oed, sy'n wreiddiol o Bontypridd, ac yn astudio am MA mewn creu ffilmiau yn yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a’r Cyfryngau, wedi gweithio ar nifer o ffilmiau dogfen llwyddiannus. Mae'r rhain yn cynnwys Fy Chwaer a Fi / My Sister and I i S4C/BBC a enillodd ddwy wobr BAFTA Cymru.
Gwahoddwyd Osian i gynnal dosbarth meistr i fyfyrwyr a darlithwyr ym Mhrifysgol De Cymru am y pethau y dylech eu gwneud a'r pethau na ddylech eu gwneud wrth greu ffilm ddogfen, o'r cysyniad i'r comisiwn.
Meddai Osian, "Roedd yn fraint cael gwahoddiad gan BAFTA i gyflwyno dosbarth meistr ym Mhrifysgol De Cymru. Roedd yn braf bod cymaint o bobl wedi fy holi ar ôl y digwyddiad hefyd."
Yn ymuno ag Osian yn y dosbarth meistr oedd Dr Llion Iwan, cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor sydd bellach yn gomisiynydd rhaglenni ffeithiol i S4C, a Deborah Perkin, gwneuthurwr ffilmiau dogfen profiadol ac arobryn sydd wedi gweithio fel cynhyrchydd/cyfarwyddwr, cynhyrchydd cyfres, cynhyrchydd gweithredol, a phennaeth datblygu mewn teledu, radio ac ar-lein.
Ar hyn o bryd mae Osian wrthi'n cynhyrchu Yr Hen Filwr, ffilm fer sy'n dilyn hanes John, a fu'n filwr yn yr Ail Ryfel Byd. Mae John yn 93 oed erbyn hyn ac yn parhau i berfformio dyletswyddau rhingyll, ond mewn cartref preswyl bellach. Mae'n gobeithio dangos ochr orau bywyd trwy rannu straeon am garedigrwydd, nerth ac angerdd. Mae Osian wrthi ar hyn o bryd yn datblygu amryw o brojectau i'r dyfodol.
Dywed Claire Heat, Cydlynydd Gwobrau Digwyddiadau BAFTA Cymru:
"Roeddem yn falch dros ben o gynnal y dosbarth meistr hwn ym Mhrifysgol De Cymru i gydnabod cyfraniad anhepgor y brifysgol at ein seremoni wobrwyo flynyddol. Mae Osian yn gymaint o ysbrydoliaeth o ran ei ffilmiau a'i gymeriad cwrtais a chadarnhaol. Rydym yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn annog pobl ifanc eraill i weithio'n galed a gobeithio y gwelwn fwy o enillwyr BAFTA ifanc yn y dyfodol."
Straeon perthnasol:
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn ennill gwobr BAFTA Cymru
Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at wobrau RTS
Myfyriwr Prifysgol Bangor yn herio MTV
Osian Williams - MA Creu Ffilmiau
Dyddiad cyhoeddi: 17 Mawrth 2014