Myfyriwr amaethyddol y flwyddyn yn graddio
Ni fydd myfyriwr o Brifysgol Bangor sy’n graddio'r wythnos hon fyth yn anghofio’r teimlad anhygoel o dderbyn canlyniadau ei radd.
Bydd Huw Emrys Mitford Davies, 24, o Langefni, Ynys Môn, sy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Llangefni, yn graddio gyda BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth a’r Amgylchedd.
Dywedodd Huw: "Rwy'n byw ar fferm y teulu ger Llangefni ar Ynys Môn. Drwy gydol fy nghyfnod yn y brifysgol, bûm yn gweithio gartref ar y fferm hefyd, ac roedd yn dipyn o her cadw’r cydbwysedd rhwng gweithio gartref a fy astudiaethau yn y brifysgol. Chwarae hoci i Ddinas Bangor sydd yn mynd â f’amser ar y rhan fwyaf o’r penwythnosau, yn ogystal â dilyn rygbi Cymru yn lleol ac yn genedlaethol.
"Y prif reswm dros ddewis Bangor oedd y cwrs ei hun, a’r ffaith fy mod yn byw yn eithaf agos i Fangor. Mae'r cwrs yn rhoi gwybodaeth eang i chi am wahanol agweddau ar amaethyddiaeth fodern gyda ffocws ar reoli amgylcheddol a chadwraeth. Roedd holi graddedigion a myfyrwyr presennol hefyd yn ddefnyddiol, ac roedd hyn yn rhoi cipolwg ar y radd a'r disgwyliadau ohonoch chi fel myfyriwr.
"Roedd yna nifer o fodiwlau diddorol yn y radd. Y ddau sy'n sefyll allan yw’r modiwl Cynllun Rheoli a'r modiwl GIS a Dulliau Ymchwil. Mae'r Cynllun Rheoli wedi fy ngalluogi i ddeall y prosesau yn y cynllun GLASTIR newydd a fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru ac mae'n rhoi'r cyfrifoldeb arnoch "chi" i ddatblygu cynllun ar gyfer eich fferm “chi”, sef Fferm y Brifysgol yn Henfaes, Abergwyngregyn . Mae'r modiwl GIS a Dulliau Ymchwil wedi fy ngalluogi i gynhyrchu mapiau ar y cyfrifiadur yn ogystal ag echdynnu data fel arwynebedd maes, ffiniau a drychiad. Mewn llawer o swyddi sy’n cael eu hysbysebu, yn arbennig ym meysydd amaethyddiaeth a chadwraeth, nodir sgiliau GIS fel rhai hanfodol y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt.
"Yr uchafbwynt oedd y fraint o gael fy newis fel Myfyriwr Amaethyddiaeth y Flwyddyn Dr Richard Phillips 2013. Cefais fy nghyfweld gan banel ar fy ngwybodaeth a’m dealltwriaeth o amaethyddiaeth, a byddaf yn derbyn y wobr ddydd Llun 22 Gorffennaf yn Sioe Frenhinol Cymru.
"Fy nod ar gyfer y dyfodol yw ehangu'r busnes ffermio gartref gan ddefnyddio'r wybodaeth a gefais ym Mhrifysgol Bangor, a chynyddu’r ddiadell famogiaid, a byddaf hefyd yn edrych ar ffyrdd i arallgyfeirio heb gael unrhyw effaith andwyol ar fusnes y fferm."
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013