Myfyriwr arobryn yn graddio
Bydd cyn-fyfyriwr o Goleg Meirion-Dwyfor yn dathlu ei lwyddiant yn seremoni graddio Prifysgol Bangor yr wythnos hon.
Bydd Elis Dafydd, 21 o Drefor, Caernarfon, yn graddio gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg yr wythnos hon. Yn ogystal, fe ddyfarnwyd gwobr Ellen Kent o £100 am ei draethawd hir ar gyfeiriadaeth lenyddol a rhyngdestunoldeb yn y teyrngedau i Iwan Llwyd.
Mae hefyd wedi ennill gwobr Syr John Morris Jones o £100 am dderbyn y canlyniadau gorau yn yr arholiadau gradd yn ei flwyddyn derfynol, ac un o wobrau mawreddog yr wythnos, sef gwobr Dr John Robert Jones o £800 am berfformiad academaidd arbennig o haeddiannol ar draws pob disgyblaeth yn y Brifysgol.
Yn teimlo rhyddhad mawr o fod yn graddio ar ôl gweithio mor galed am dair blynedd, dywedodd Elis: “Rwy’n teimlo’n hapus ac yn falch iawn fod y gwaith caled hwnnw wedi dwyn ffrwyth.
“Drwy hap a damwain y bu i mi ddod i Fangor, ond damwain oedd honno wnaeth esgor ar dair blynedd hapusaf fy mywyd.
“Gweithiais yng Nghanolfan Bedwyr yn ystod y gwyliau haf 2012 a 2013 ac yn ystod fy nhrydedd flwyddyn roeddwn yn gweithio fel mentor ysgrifennu i gyfoedion yn y Ganolfan Sgiliau Astudio. Roedd hynny’n gallu bod yn waith caled a heriol iawn ar adegau, ond roedd hefyd yn waith a fwynheais ac rwy’n credu iddo fod yn brofiad gwych.
“Roeddwn yn un o’r pedwar a gymerodd ran yn yr Her100Cerdd ym mis Hydref, 2013 lle'r oedd pedwar bardd yn ceisio’u gorau i ysgrifennu 100 o gerddi mewn 24 awr.
“Ers tua mis Mawrth rwyf wedi bod ynghlwm â’r gwaith o olygu rhifyn nesaf Tu Chwith – cylchgrawn llenyddol Cymraeg – ar y cyd â myfyriwr arall o Ysgol y Gymraeg. Bydd y rhifyn – ar y thema ‘Caeth/Rhydd’ – yn cael ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, roedd Elis yn Aelod o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg. Roedd hefyd ar fwrdd golygyddol Y Llef, papur newydd Cymraeg myfyrwyr Bangor – Elis oedd yn gyfrifol am y Gornel Greadigol ac yr oedd yn cyfrannu erthyglau a cholofnau eraill yn gyson hefyd.
Mae Elis yn gobeithio dechrau dilyn cwrs MA ym mis Medi, dywedodd: “Hoffwn ddiolch o waelod calon i staff Ysgol y Gymraeg. Maen nhw’n ddarlithwyr gwych, maent bob amser ar gael i roi cyngor neu gefnogaeth ac maen nhw’n haeddu pob clod a mawl a braint a bri.”
Dyddiad cyhoeddi: 10 Gorffennaf 2014