Myfyriwr Bangor yn cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel
Mae myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cystadlu i ennill Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019.
Bydd Cai Fôn Davies, 19, o Fangor sy’n fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Hanes, yn cystadlu Nos Wener, Hydref 11eg yn Neuadd Goffa’r Barri.
Mae Cai yn berfformiwr amryddawn a thoreithiog sydd wedi ymddangos droeon ar lwyfannau yng Nghymru a thu hwnt, gan ddod i’r brig mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol mewn sawl maes perfformio. Cipiodd y wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y gân werin agored yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddiweddar. Cynrychiolodd Cai hefyd Gymru yng nghynhadledd hanes EUSTORY (Eustory) yn Berlin fis Tachwedd llynedd, gan gydweithio gyda chwmni Almaenig Vajswerk Recherchetheater mewn gweithdy a oedd yn defnyddio astudiaeth hanesyddol i greu cynhyrchiad theatrig creadigol. Mae Cai aelod o Aelwyd JMJ.
Dywedodd Cai, cyn disgybl Ysgol Tryfan: “Dwi’n ei chyfrif hi’n fraint ac yn anrhydedd o fod wedi cael fy newis i fod yn rhan o gystadleuaeth mor nodedig ag Ysgoloriaeth Bryn Terfel. Dwi wedi dysgu cymaint o’r profiad yma’n barod wrth baratoi’r rhaglen, ac wedi ceisio perchnogi bob eiliad o’r daith - o’r trefnu i’r creu a’r perfformio. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio yn yr Ysgoloriaeth ddydd Gwener, ac yn mawr obeithio y bydda i’n creu argraff.”
Mae’r Ysgoloriaeth flynyddol yma werth £4,000 ac yn cael ei rhoi i enillydd un o gystadlaethau unigol dan 25 oed Eisteddfod yr Urdd.
Nod yr Ysgoloriaeth yw meithrin talentau rhai o berfformwyr ifanc mwyaf blaenllaw Cymru a rhoi’r cyfle iddynt ddatblygu ymhellach yn eu maes.
Dywedodd Yr Athro Angharad Price, Darlithydd yn yr Ysgol Gymraeg: “Rydym yn hynod o falch o lwyddiant Cai ar lwyfan yr Eisteddfod ac wrth ein bodd ei fod wedi cyrraedd rhestr fer Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni. Mae o'n aelod gwerthfawr o gymuned y myfyrwyr yma yn Ysgol y Gymraeg ym Mangor ac yn Aelwyd JMJ, wrth gwrs. Pob lwc i ti, Cai!”
Eleni, i nodi 20 mlynedd ers sefydlu’r ysgoloriaeth, mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru a chefnogaeth Llywodraeth Cymru, mae’r Urdd yn cyhoeddi elfen ryngwladol newydd.
Ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020, bydd enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel 2019 yn perfformio yn un o’r dathliadau byd-eang ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2020.
Yn y gorffennol, mae Dr Manon Wyn Williams, sydd wedi derbyn graddau BA ac MA a PhD o Fangor; Huw Ynyr Evans, ag astudiodd Cerdd; a Gwen Elin ag astudiodd y Gymraeg, wedi ennill yr Ysgoloriaeth.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2019