Myfyriwr Busnes i wynebu Her y 15 Copa
Mae myfyriwr Prifysgol Bangor am ymgymryd â’r her 15 Copa Eryri i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl gydag osteoporosis.
Ar y 12fed o Orffennaf bydd Rhodri Ogwen Morgan, 31, o Gricieth yn ymgymryd â’r her 15 Copa Eryri i Dîm Osteoporosis. Bydd Rhodri’n ymweld â chopaon dros dair mil troedfedd Cymru mewn un daith odidog.
Mae Rhodri, sydd newydd gwblhau MBA Rheolaeth Amgylchedd yn Ysgol Fusnes y Brifysgol, yn gobeithio codi dros £500 i elusen y Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol.
Cymdeithas Osteoporosis Genedlaethol yw'r unig elusen yn y DU sy'n ymroddedig i roi terfyn ar y boen a'r dioddefaint a achosir gan osteoporosis ac esgyrn bregus. Mae'n effeithio ar gyfartaledd 1 o bob 2 fenyw yn y DU, ac 1 o bob 5 o ddynion dros 50 oed. Mae ymarfer corff rheolaidd, fel rhedeg, wedi ei brofi i helpu cynnal cryfder esgyrn ac i leihau'r siawns o Osteoporosis i ddatblygu yn y corff.
Mae Rhodri wedi bod yn ymarfer yn galed ar gyfer yr her drwy gwblhau amryw rannau o'r llwybr yng nghyffiniau Pentref Llanberis gydag aelodau o Glwb Mynydda Cymru. Mae Rhodri’n gobeithio cwblhau'r cwrs byd enwog mewn llai na 24 awr.
Wrth sôn am y dasg enfawr o'i flaen, dywedodd Rhodri: "Dwi ‘di bod yn ymwybodol o her y 15 Copa ers nifer o flynyddoedd, ond dwi erioed wedi cael y cyfle i’w gwblhau. Er bod yr her ei hun yn anodd iawn, mae’r cymorth a chymhelliant dwi wedi ei dderbyn gan Glwb Mynydda Cymru, Prifysgol Bangor a’r Gymdeithas Osteoporosis Genedlaethol wedi bod yn rhagorol. Mae gen i nifer o aelodau o'r teulu sy'n dioddef o Osteoporosis ac mae’r cyfle i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer y cyflwr yn fonws go iawn".
I godi arian ac ymwybyddiaeth mae Rhodri wedi sefydlu tudalen “Just Giving” a byddai'n ddiolchgar am unrhyw gyfraniad i'w achos:
Dywedodd Claire Wynne-Hughes, Cyfarwyddwr Codi Arian ar gyfer y Gymdeithas Osteoporosis Cenedlaethol: "Mae unigolion fel Rhodri yn gwneud gwaith anghredadwy. Maent yn mynd i drafferth anhygoel i ymgymryd â heriau sy'n trawsnewid bywydau pobl sy'n dioddef o osteoporosis. Mae cymaint o bobl yr ydym yn gweithio gydag yn dweud wrthym am y gofid, poen ac anabledd sydd yn cael ei achosi gan osteoporosis ond mae’n galonogol bod y gefnogaeth a’r wybodaeth yr ydym yn ei rhoi yn cyfrannu at newid y bywydau hyn a gall fod o gymorth mawr. Gall osteoporosis achosi toriadau mewn esgyrn yn dilyn rhywbeth mor fach a thisian neu beswch, ond mae cymorth pobl fel Rhodri i godi arian ac ymwybyddiaeth yn gwneud gwahaniaeth sylweddol iawn.
“Rydym bob amser yn chwilio am godwyr arian newydd, felly os ydych yn chwilio am eich her nesaf gallwch gysylltu â ni drwy ymweld â'n gwefan."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2014