Myfyriwr ‘canolig’ yn derbyn Gradd Dosbarth Gyntaf!
Mae un o raddedigion Astudiaethau Creadigol Prifysgol Bangor wedi cyflawni’r gamp o ennill gradd dosbarth gyntaf, er iddo feddwl ar un adeg na fysa’n derbyn graddau digon da i astudio yn y Brifysgol.
Mae Matthew Neale yn disgrifio’i hun fel myfyriwr ‘canolig’ oedd a dim diddordeb mewn parhau a’i addysg ar ôl gadael yr ysgol - nes i wyliau teulu ddod a fo i Ogledd Cymru ble disgynnodd mewn cariad a Phrifysgol Bangor.
Yn sicr mai dyma’r lle iddo astudio, aeth Matthew ati i weithio’n galed yn ei arholiadau yn yr ysgol yn y Swistir a chafodd y graddau oedd angen i ennill lle ym Mangor. Tair blynedd yn ddiweddarach, mae o’n hynod o falch o dderbyn gradd Dosbarth Cyntaf.
Meddai Matthew, 22, “Pan roeddwn i’n ystyried mynd i’r brifysgol, doedd gen i ddim clem bet hi astudio, ac i ddweud y gwir roedd gen i gyn lleied o ddiddordeb yn y syniad ro’n i bron a pheidio gwneud cais o gwbl.
“Dywedodd fy athrawon wrthyf yn yr ysgol y byswn i’n annhebygol o wneud yn ddigon da yn fy arholiadau i fynd i sefydliad ag enw da. Ond ar ôl ymweld â Phrifysgol Bangor a sylweddoli mai dyma’r lle i mi, penderfynais roi fy mhen i lawr a gweithio’n galed.
Wedi pasio’i arholiadau ac ennill lle ym Mangor, dechreuodd Matthew astudio BA mewn Astudiaethau Creadigol.
“Roedd dipyn o sialensiau ar hyd y tair blynedd ond roedd hyn o gymorth i mi cyrraedd fy mhotensial llawn.
“Diolch i strwythur y cwrs a chymorth darlithwyr gwych fel Dyfrig Jones ac Andy McStay, mi wnes i gyflawni cymaint mwy nag oeddwn wedi ei ddisgwyl a graddio gyda Gradd Dosbarth 1af”
Yn ystod ei flwyddyn gyntaf, cafodd Matthew anaf difrifol i’w ben a bu’n rhaid iddo dderbyn llawdriniaeth i achub ei fywyd, ond er hyn parhaodd i fod yn ymroddedig i’w gwrs.
Eglurodd Matthew, “Yn ystod gwyliau Pasg y flwyddyn gyntaf roeddwn allan yn dathlu fy mhen-blwydd yn 20 gyda fy mrawd a ffrindiau pan ddisgynnais a tharo fy mhen a bu’n rhaid i mi dderbyn llawdriniaeth brys.
“Pythefnos ar ôl y llawdriniaeth dychwelais i’r brifysgol yn benderfynol i gwblhau fy mlwyddyn gyntaf, a dyna wnes i gyda dim ond bythefnos o oedi. Dysgodd y profiad yma i mi gymryd gwell gofal o fy hun ac roedd yn allweddol i helpu i mi fod yn fwy aeddfed a gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd sy’n cael eu rhoi i mi.
“Yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Bangor fe wnes ffrindiau oes a phrofi cymaint o bethau newydd. Cefais lawer o hwyl yn cyflwyno rhaglen radio ar StormFM gydag un o fy ffrindiau, Liam Newman, a mwynheais fy rôl fel seneddwr Undeb y Myfyrwyr. Mae’r tair blynedd diwethaf yn fythgofiadwy ac wedi fy llunio i’r person ydwyf heddiw.
“Diolch i’r holl brofiadau gwych rwyf wedi eu cael ym Mangor, rwyf wedi penderfynu parhau a fy addysg wedi i mi dderbyn lle i astudio ar gyfer MSc yn Ysgol Busnes Manceinion.”
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2011