Myfyriwr disglair ym Mhrifysgol Bangor yn ennill gwobr genedlaethol am ymchwil cadwraeth forol
Dyfarnwyd Gwobr Goffa Wakefield y Gymdeithas Cadwraeth Forol i Jack Emmerson, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor, am ei broject 'Pysgodfeydd offer pysgota sefydlog cynaliadwy ym Môr Iwerddon'.
Caiff Gwobrau Cenedlaethol Myfyrwyr P1 Marine Foundation 2015, a gefnogir gan Ystâd y Goron, y Gymdeithas Cadwraeth Forol a'r Institute of Marine Engineering Science and Technology (IMarEST), eu cyflwyno yn Llundain ym mis Chwefror. Lansiwyd y gwobrau gan P1 Marine Foundation yn 2012 i wobrwyo myfyrwyr mewn addysg uwch sy’n cynhyrchu gwaith rhagorol a fydd yn helpu i ddiogelu a gwarchod yr amgylchedd morol. Bydd y seremoni yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ddangos eu projectau i gynulleidfa o academyddion, arweinwyr busnes a chyrff anllywodraethol.
Meddai un o'r beirniaid Dr Laura Foster, Rheolwr Rhaglen Llygredd y Gymdeithas Cadwraeth Forol,
"Roedd yn wych cael gweld arloesedd eang y myfyrwyr sy’n gweithio i helpu i warchod ein moroedd. Mae amrywiaeth y projectau sy’n ennill gwobrau yn adlewyrchu ansawdd y ceisiadau ac mae'n hyfryd gweld y genhedlaeth nesaf o gadwraethwyr morol. "
Eglurodd Jack, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion:
"Yn fy mhroject byddaf yn casglu tystiolaeth wyddonol a fydd yn cefnogi nifer o bysgodfeydd yng Nghymru ac Ynys Manaw. Byddaf yn ymchwilio i sut mae pysgodfeydd yn effeithio ar gimychiaid, crancod, gwichiaid moch, corgimychiaid a'r ecosystem ehangach i sicrhau dyfodol cynaliadwy".
Mae Jack yn 24 oed a daw yn wreiddiol o Flamborough yn Nwyrain Swydd Efrog, ond mae ar hyn o bryd yn byw ar Ynys Manaw lle bydd yn gweithio fel aelod o dîm o wyddonwyr o Brifysgol Bangor tan 2020. Meddai,
"Fy nghynllun at y dyfodol yw datblygu gyrfa mewn ymchwil biolegol/pysgodfeydd morol a fydd yn mynd â fi o gwmpas y byd, lle rwyf yn gobeithio mynd i'r afael â rhai o'r heriau sy'n wynebu llawer o bysgodfeydd byd-eang".
Ychwanegodd am Fangor:
"Mae'n fraint cael datblygu fy ngyrfa academaidd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol Bangor o ystyried ei henw da rhagorol yn rhyngwladol yn y maes ac yn y diwydiant. Mae’n gyfle anhygoel i gael astudio yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a chael mynediad at ymchwil perthnasol a deinamig o safon ryngwladol. Mae ehangder a dyfnder yr arbenigedd ledled y Brifysgol yn golygu y gallaf fanteisio ar feysydd gwybodaeth sy'n dod â gwerth aruthrol i fy ymchwil. "
Dyddiad cyhoeddi: 1 Chwefror 2016