Myfyriwr graddedig lleol yn ennill gwobr fawr
Mae gwaith caled myfyriwr lleol wedi talu ar ei ganfed wrth iddo ennill un o brif Wobrwyon Prifysgol Bangor, sydd werth dros £1000.
Mae pedair Gwobr Dr John Robert Jones yn cael eu dyfarnu’n flynyddol i’r graddedigion efo’r canlyniadau gorau ar draws pob pwnc a disgyblaeth o fewn y Brifysgol, dwy i fyfyrwyr o Gymru a dwy Wobr Agored.
Derbyniodd Danial Richard Hemmings,25, o Gaerwen, Ynys Môn, sydd wedi graddio gyda BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid eleni, siec gwerth £1,125 am Wobr Agored yn ystod ei seremoni graddio wythnos hon.
Dywedodd Danial, cyn disgybl Ysgol David Hughes: “Mae’n rhyddhad mawr gorffen fy ngradd ac rwyf wrth fy modd cael gorffen o’r diwedd. Ond er dweud hynny, bydd bywyd yn rhyfedd iawn heb ddyddiadau cyflwyno traethodau ac arholiadau - dwi’n siŵr y byddai’n teimlo ar goll am ychydig! Mae’n anodd credu fod tair blynedd o astudio wedi mynd heibio mor gyflym.
“Dwi’n teimlo fy mod wedi cael budd mawr o fod yn fyfyriwr ychydig yn hŷn. Gan fy mod wedi cael cyfle i aeddfedu cyn dechrau astudio dwi’n teimlo fy mod wedi gwerthfawrogi’r cyfle fwy a fy mod wedi datblygu mwy o ddiddordeb yn y pwnc.
“Roeddwn eisiau astudio ym Mangor gan fod enw mor dda yn y byd busnes gan yr Ysgol Busnes. Hefyd, gan fod y Brifysgol yn lleol roeddwn yn gallu parhau i weithio wrth astudio.
“Rwyf wedi bod yn gyrru fan hufen iâ o amgylch Ynys Môn wrth astudio - roedd hyn yn gweithio’n dda iawn gan fod strwythur y cwrs yn rhoi 4 mis rhydd i mi yn yr haf gyda’r rhan fwyaf o draethodau i’w cwblhau yn y gaeaf.
Uchafbwynt fy amser ym Mangor oedd yr ymateb positif at fy ngwaith a’r hyder cefais o hyn. Mae’n anrhydedd mawr cael fy ngwaith wedi ei gydnabod gan yr adran yma ym Mangor.
“Wedi graddio, rwy’n gobeithio cael swydd fel Cynorthwyydd Archwilio neu swydd debyg o fewn y byd cyfrifeg a hefyd gobeithio cael y cyfle i barhau i ennill cyfleusterau proffesiynol. Ella, un diwrnod, mi y doi nôl i Fangor i gwblhau doethuriaeth.
“Hoffwn ddiolch i’r adran a’r staff ym Mangor sydd nid yn unig wedi rhoi'r cyfle i mi ddysgu, ond hefyd wedi f’ ysbrydoli a fy annog i ddysgu mwy yn y dyfodol.”
Dyddiad cyhoeddi: 11 Gorffennaf 2011