Myfyriwr Gwneud Ffilmiau yn graddio
Yr wythnos hon, mae myfyriwr o Brifysgol Bangor a’i fryd ar fusnes yn graddio ar ôl tair blynedd o waith caled a dechrau disglair i’w yrfa fel gwneuthurwr ffilmiau.
Bydd y cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Rhydfelen, Osian Williams, 21, o Bontypridd, yn graddio â BA dosbarth cyntaf mewn Cyfathrebu a’r Cyfryngau. Ar ben hynny, enillodd Osian wobr am y traethawd hir ymarferol gorau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a Chyfryngau. Yn ystod ei gyfnod ym Mangor, sefydlodd Osian ei gwmni cyfryngau llwyddiannus ei hun, a bu’n gyfrannog mewn sawl cynhyrchiad a enillodd wobr.
Meddai Osian, “Deuthum i Fangor gan mai hon oedd y Brifysgol a oedd wedi tynnu fy mryd erioed. Ers imi ddod i Fangor, rwy wedi cychwyn gyrfa ym myd gwneud ffilmiau, ac oherwydd yr help a gefais gan y staff, rwy wedi gallu gwneud cynnydd da ers 3 blynedd.
“Dewisais astudio ym Mangor am fy mod yn hoff iawn o’r ardal. Mae Eryri’n lle godidog. Ar ben hynny, roedd Bangor bob amser ar frig fy rhestr o brifysgolion ers fy mlwyddyn TGAU. Dwy ddim yn gwybod pam, ond roedd yn ymddangos fel y brifysgol iawn i mi.
“Sefydlais fy nghwmni cynhyrchu fy hun, sef SSP Media, yn fy ail flwyddyn, a bûm yn gweithio i nifer o wahanol gleientiaid yn y DU, yn ogystal â rhai yn America. Ers hynny, ni fu diwedd ar fy ngwaith y tu allan i’r Brifysgol. Ar y dechrau, roedd yn anodd iawn creu cydbwysedd rhwng fy ngwaith prifysgol a’m busnes, ond meithrinais yr agwedd meddwl yr oedd ei hangen er mwyn gwneud y gwaith.
“Bûm yn lwcus iawn yn ystod fy amser yma, ar ôl gweithio ar nifer o brojectau gwahanol gyda’r Brifysgol ac amryw o sefydliadau. O fewn y Brifysgol, bu modd imi roi sylw i nifer o ddigwyddiadau amrywiol a diddorol a gynhaliwyd gan Pontio, Bangor. Bûm hefyd yn cyd-gynnal ysgol ffilm gyda Pontio mewn ysgolion o gwmpas ardal Bangor. Mae fy nghariad, Amy, yn gwneud ei gradd mewn Ffrangeg a Chymraeg ym Mangor, a threuliodd hi flwyddyn ym Mharis fel rhan o’i chwrs gradd, a minnau wedi cael hwyl fawr wrth fynd yno sawl gwaith.
“Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf, bûm yn aelod o’r Orsaf Radio i Fyfyrwyr, Storm FM, ac o’r Gymdeithas Ffilm. Yn anffodus, wrth i’m busnes ddatblygu, ni chefais i ddigon o amser i barhau â hyn. Hoffwn annog pawb sy’n dod i Fangor i fanteisio ar yr amrywiaeth o gymdeithasau a geir yma.
“Mae gan lawer syniad ystrydebol ynglŷn â bywyd myfyrwyr, gan gredu eu bod yn mynd i bartïon a gwneud nemor ddim arall, felly tueddant i gydymffurfio â’r ystrydeb honno er mwyn creu argraff ar eraill. Torrais yn rhydd o hyn, fan fanteisio i’r eithaf ar yr hyn yr oedd gan Fangor a’i hamrywiaeth o fyfyrwyr i’w chynnig.
“Byddaf yn parhau i astudio ym Mangor ym Medi, gan gychwyn ar radd Meistr mewn gwneud ffilmiau, a gobeithiaf barhau â’m cwmni. Rwy’n ddiolchgar iawn fy mod wedi gwneud cymaint o ffrindiau da yn y Brifysgol ac imi gael y cyfle i symud ymlaen fel gwneuthurwr ffilmiau.”
Darllenwch hefyd:
Mwy o lwyddiant yn America i Osian
Myfyriwr o Fangor yn edrych ymlaen at Wobrau RTS
Myfyriwr o Brifysgol Bangor yn cymryd MTV ar ei gefn
Osian Williams – Cyfathrebu a Newyddiaduraeth
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013