Myfyriwr gyda’r canlyniadau gorau yn ei flwyddyn olaf yn graddio
Bydd myfyriwr lleol yn derbyn gwobr yn ystod ei seremoni raddio'r wythnos hon.
Bydd Siôn Elwyn Hughes, 21, o Fethel, Caernarfon yn graddio o Brifysgol Bangor gyda
BA Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg. Siôn yw enillydd Gwobr Syr John Morris Jones. Cafodd y wobr ei sefydlu dros ddeugain mlynedd yn ôl ac fe’i dyfernir i'r myfyriwr/myfyrwyr a gafodd y canlyniadau gorau yn yr arholiadau gradd yn ei flwyddyn/eu blwyddyn derfynol.
Meddai Siôn: “Mae’n deimlad cyffrous ac yn rhyddhad mawr i fod yn graddio!
“Rydw i’n gyn-ddisgybl o Ysgol Bethel ac Ysgol Brynrefail. Astudiais y Gymraeg, Hanes a Cherdd at fy Lefel A ac enillais Ysgoloriaeth Ragoriaeth y Gymraeg i fynd i astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
“Fe wnes i ddewis dod i Fangor oherwydd mai yma oedd y cwrs gorau, y gymuned Gymraeg ac roedd yn weddol agos at adref.
“Roeddwn yn gweithio yn ystod fy nghyfnod ym Mangor. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn o ran ariannu fy nghwrs a’m bywyd yn y Brifysgol yn ogystal â rhoi sgiliau bywyd i mi. Hefyd, cefais y cyfle i fynd ar brofiad gwaith i ddau sefydliad, Canolfan Bedwyr a Chyngor Gwynedd, yn ystod y cwrs.
“Roeddwn yn rhan o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg Prifysgol Bangor ac yn cyfrannu i bapur newydd y myfyrwyr Cymraeg ,‘Y Llef’. Roeddwn hefyd yn aelod o Aelwyd JMJ.
“Rwy’n gobeithio mynd i swydd y byddaf yn ei mwynhau yn y dyfodol, ond dim syniad am yrfa bosibl eto!”
Gwyliwch ein cyfweliad fideo gyda Siôn ar BangorTV.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Gorffennaf 2013